Cost of Living Support Icon

 

Cam diweddaraf y gwelliannau yn Ysgol Bro Morgannwg wedi'u cwblhau

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o nodi bod pum cam o waith wedi'u cwblhau fel rhan o fuddsoddiad o £21.5m yn Ysgol Bro Morgannwg yn y Barri.

 

  • Dydd Llun, 14 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



YGBM pitch

 

Mae'r safle bellach yn gartref i gae rygbi 3G newydd sbon, neuadd chwaraeon, bloc addysgu 3 llawr a man gollwng i fysus. Mae'r prif adeilad mynediad hefyd wedi'i ailadeiladu.

 
Cwblhawyd y gwaith cyn tymor ysgol yr Hydref.
 
Trosglwyddwyd ardal gemau aml-ddefnydd, y gellir ei defnyddio ar gyfer hyd at chwe gweithgaredd gwahanol y llynedd hefyd.
 
Mae’r project yn ffurfio rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn parhau tan fis Awst 2021 a bydd yn cynnwys gwaith adnewyddu mewnol llawn, bloc Dylunio a Thechnoleg newydd, adeilad craidd mynediad mewnol a Chanolfan Adnoddau Dysgu.
 
Bydd capasiti'r ysgol yn cynyddu o 1,361 i 1,660 gyda’r cyfleusterau newydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett: "Rwy'n falch iawn o weld y cam nesaf hwn o waith yn yr ysgol yn cael ei gwblhau a'i drosglwyddo.
 
"Gyda’r project Ysgolion yr 21ain Ganrif bydd Ysgol Bro Morgannwg yn ymddangos fel ysgol hynod fodern ac mae'n rhan o raglen bellgyrhaeddol i drawsnewid seilwaith addysgol ar draws y sir.
 
"Bydd disgyblion a chymunedau ym Mro Morgannwg yn elwa'n fawr o'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn adeiladau a chyfleusterau ysgolion o'r radd flaenaf.”