Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 28 Mis Medi 2020
Bro Morgannwg
Bydd y buddsoddiad o dros £400,000 yn helpu i gyflawni mesurau sy'n hwyluso masnach ac adferiad economaidd; ac yn darparu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar i ymwelwyr, siopwyr a gweithwyr yng nghanol ein trefi.
Mae'r Cyngor wedi comisiynu ymgynghorwyr dylunio trefol Roberts Limbrick i ddatblygu cyfres o opsiynau ar gyfer gwelliannau i ardaloedd cyhoeddus gan ganolbwyntio ar ardaloedd siopa'r Stryd Fawr/Broad Street a Heol Holltwn yn y Barri a'r prif ardaloedd siopa yn y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth. Bwriedir i’r projectau gael eu cyflawni erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Mae'r buddsoddiad hwn yn mynd law yn llaw ag ymgyrch farchnata strategol sy’n cael ei lansio'n fuan, y mae annog dinasyddion i gefnogi ein busnesau yng nghanol ein trefi drwy siopa'n lleol ac yn ddiogel yn amcan allweddol iddi.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb i ganol ein trefi ac mae i’w groesawu’n fawr wrth i ni lywio ein ffordd drwy’r cyfnod adfer wedi Covid-19. Mae canol ein trefi wrth galon ein cymunedau lleol ac mae'r buddsoddiad hwn gan Gyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru (Buddsoddiad Adfywio wedi'i Dargedu) yn cydnabod y rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae wrth yrru ein heconomi leol." Dywedodd Chris Gentle o Roberts Limbrick: "Rydym yn falch iawn o fod yn cynorthwyo Bro Morgannwg yn y project pwysig hwn. Mae ein tîm, gan gynnwys Chris Jones a Highgate Transportation, yn gweld cyfle gwirioneddol yma i newid yn gadarnhaol sut rydym yn defnyddio canol ein trefi drwy greu amgylcheddau cerddwyr a mannau cymdeithasol mwy diogel. "Ein brîff yw nid yn unig i edrych ar y presennol, ond helpu i bennu cyfres o fathau o brojectau a all lywio gweledigaeth a chyfeiriad unrhyw ychwanegiadau a gwelliannau yn yr ardaloedd sydd dan astudiaeth yn y dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb i ganol ein trefi ac mae i’w groesawu’n fawr wrth i ni lywio ein ffordd drwy’r cyfnod adfer wedi Covid-19. Mae canol ein trefi wrth galon ein cymunedau lleol ac mae'r buddsoddiad hwn gan Gyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru (Buddsoddiad Adfywio wedi'i Dargedu) yn cydnabod y rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae wrth yrru ein heconomi leol." Dywedodd Chris Gentle o Roberts Limbrick: "Rydym yn falch iawn o fod yn cynorthwyo Bro Morgannwg yn y project pwysig hwn. Mae ein tîm, gan gynnwys Chris Jones a Highgate Transportation, yn gweld cyfle gwirioneddol yma i newid yn gadarnhaol sut rydym yn defnyddio canol ein trefi drwy greu amgylcheddau cerddwyr a mannau cymdeithasol mwy diogel.
"Ein brîff yw nid yn unig i edrych ar y presennol, ond helpu i bennu cyfres o fathau o brojectau a all lywio gweledigaeth a chyfeiriad unrhyw ychwanegiadau a gwelliannau yn yr ardaloedd sydd dan astudiaeth yn y dyfodol."
Bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen fuddsoddi ar wefan y Cyngor a sianelau’r cyfryngau cymdeithasol.