Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 26 Mis Hydref 2020
Bro Morgannwg
Barri
Yn cynnwys 19 eiddo dwy ystafell wely a phedair ystafell wely, mae'r cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu gan Pegasus Developments Ltd ar safle tir llwyd ger Ystâd Fasnachu’r Iwerydd.
Byddant yn rhoi hwb i stoc dai'r Cyngor ac yn helpu i ateb y galw sylweddol am lety o'r math hwn.
Daw'r cyhoeddiad hwn wrth i waith ar ddatblygiad tai Cyngor arall yn Llys Llechwedd Jenner gael ei gwblhau; prosiect gwerth £3.5 miliwn a ddarparodd 28 o gartrefi pwrpasol newydd.
Ac mae cynllun i adeiladu 11 o gartrefi newydd yn Holm View yn y Barri, y mae pedwar ohonynt yn fyngalos wedi'u haddasu'n arbennig i fodloni anghenion aelod anabl o'r teulu, hefyd bron â'i gwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Tai ac Adeiladu: "Mae'r angen am dai Cyngor yn cynyddu felly mae’n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy adeiladu eiddo o'r ansawdd gorau." "Mae'r tai hyn yn cael eu hadeiladu i'r fanyleb uchaf a byddant yn creu cartrefi modern cyfforddus i deuluoedd. "Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau difrifol a gynlluniwyd i hybu ein stoc tai cymdeithasol a darparu ar gyfer anghenion ein trigolion."
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Tai ac Adeiladu: "Mae'r angen am dai Cyngor yn cynyddu felly mae’n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy adeiladu eiddo o'r ansawdd gorau."
"Mae'r tai hyn yn cael eu hadeiladu i'r fanyleb uchaf a byddant yn creu cartrefi modern cyfforddus i deuluoedd.
"Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau difrifol a gynlluniwyd i hybu ein stoc tai cymdeithasol a darparu ar gyfer anghenion ein trigolion."