Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau ymgynghoriad ar barcio sy’n creu problemau
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn am farn pobl ar gynigion i gyflwyno rheolaethau parcio preswylwyr mewn chwe man penodol lle ceir problemau yn y Sir.
Mae parcio dadleoli wedi dod yn broblem, gyda nifer o bobl yn gadael eu ceir mewn ardaloedd preswyl wrth ymweld â mannau awyr agored neu ger safleoedd cyflogaeth mawr.
Mae hyn wedi arwain at strydoedd gorlawn yn achosi anghyfleustra i drigolion lleol a hyd yn oed yn llesteirio cerbydau brys.
Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae'r Cyngor yn cynnig cyflwyno cynlluniau parcio newydd i breswylwyr ar rannau o Ynys y Barri, Aberogwr, y Knap, Cosmeston, y Bont-faen a Llandochau.
O dan y cynlluniau hyn, byddai trwyddedau parcio yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim i drigolion y strydoedd yr effeithir arnynt, gydag unrhyw un a fyddai’n parcio eu car yn yr ardaloedd hyn yn wynebu camau gorfodi posibl.
Ond dim ond os yw'r rhan fwyaf o breswylwyr mewn ardal o blaid y cynigion y bydd y Cyngor yn mynd ati.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n ymwybodol bod nifer o strydoedd o amgylch y Fro wedi dioddef dros nifer o flynyddoedd am fod nifer fawr o bobl yn parcio yno wrth ymweld ag atyniadau neu wrth fynychu eu gwaith.
“Gall hyn achosi problemau i breswylwyr sy'n ceisio mynd i mewn ac allan o’u heiddo yn ogystal ag effeithio ar lif traffig a diogelwch ar y briffordd.
"Mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet a minnau wedi ymateb i'r pryderon a godwyd drwy gytuno ar fesurau newydd sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r problemau parcio preswyl mewn nifer o leoliadau allweddol yn y sir.
"Rydym bellach yn gofyn barn preswylwyr ar y cynigion hyn. Os yw'r rhan fwyaf o drigolion yr ardaloedd hyn yn cytuno, y bwriad fyddai cyflwyno cynlluniau parcio i breswylwyr cyn gynted ag ybyddai’n gyfreithiol bosibl, gan ei gwneud yn drosedd parcio yno heb drwydded."
Os cytunir ar y camau i weithredu'r cyfyngiadau yn y chwe lleoliad blaenoriaeth cychwynnol ac os gwelir eu bod yn llwyddiant, gellid ymestyn y mesurau i rannau eraill o'r Fro.
Bydd yr Ymgynghoriad yn para tan 1 Tachwedd ac ar ôl hynny bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu.
Anfonir llythyrau at y rhai sy'n byw ar strydoedd yr effeithir arnynt, tra bod modd mynegi barn hefyd drwy: