Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

Dyma neges gan y Cyng. Neil Moore i breswylwyr wrth i’r cyfnod atal byr ddechrau

  • Dydd Gwener, 23 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg



Wrth i Fro Morgannwg baratoi at gychwyn cyfnod atal, fydd yn weithredol drwy Gymru gyfan o 6pm heno, roeddwn i eisiau egluro pam mae’r cyfnod atal newydd hwn mor bwysig.


Rydyn ni i gyd wedi aberthu llawer iawn dros y saith mis diwethaf, gyda’r cyfnod cloi cenedlaethol, ac wedyn y cyfnod cloi lleol yn y Fro y mis diwethaf.


Mae’n dda gennyf ddweud bod y clo lleol wedi llwyddo i arafu lledaeniad Covid-19 i ryw raddau.   Fodd bynnag, er bod lledaeniad y feirws wedi arafu, nid yw wedi diflannu ym Mro Morgannwg ac mae hynny'n sicr yn wir mewn rhannau eraill o Gymru. 


Felly, gan fod Covid-19 yn parhau i gael ei drosglwyddo ledled Cymru, rhaid inni i gyd weithio gyda'n gilydd.   Dyna pam y mae mor bwysig i ni fynd ymhellach a mynd i gyfnod cloi llymach unwaith eto, ond y tro hwn am gyfnod penodol fydd yn dod i ben ar 9 Tachwedd.


Rwy'n gwybod y bydd yn anodd, nid oes neb yn amau hynny a dyna pam yr hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb am eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r feirws hyd yma - mae'n sicr eich bod wedi gwneud gwahaniaeth.


Fel y dywedais, mae'r feirws yn gostwng ychydig yma ym Mro Morgannwg, ond gallai afael yn hawdd iawn eto. 

 

Cllr Neil Moore

Felly, nid oes gennym ddewis arall ond ymdrechu’n galed eto dros y pythefnos a hanner nesaf wrth i ni ymladd y clefyd erchyll hwn a diogelu ein GIG. 

 

Mae'r cyfarwyddiadau'n syml: 

• Peidiwch â gadael eich cartref ond i wneud ymarfer corff neu i nôl nwyddau hanfodol yn unig

• Dylech weithio gartref lle bo hynny’n bosibl.

• Peidiwch â chyfarfod ag unrhyw un o aelwyd arall naill ai dan do nac yn yr awyr agored os nad ydych mewn amgylchiadau arbennig penodol.


Bydd pob busnes lletygarwch, manwerthu, harddwch a hamdden nad yw'n hanfodol yn cau, yn ogystal â rhai o wasanaethau'r Cyngor, megis llyfrgelloedd a Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

 

Bydd ysgolion uwchradd yn addysgu ar-lein yn unig am yr wythnos ar ôl hanner tymor, ac eithrio ar gyfer plant ym mlynyddoedd saith ac wyth a’r disgyblion sy’n sefyll arholiadau sydd wedi eu trefnu.

 

Bydd ysgolion cynradd a lleoliadau gofal plant yn aros ar agor.

 

Mae gorchuddion wyneb yn dal i fod yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do fydd yn aros ar agor, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis, ac eithrio rhai eithriadau.

 

Rwy’n gwybod nad yw byw dan yr amodau hyn yn hawdd. Mae’r cyfyngiadau sydd wedi eu gosod arnom eleni yn annhebyg i unrhyw beth rydym wedi ei brofi o’r blaen. Maen nhw wedi ein cadw oddi wrth anwyliaid, wedi effeithio ar ein busnesau ac ar ein rhyddid.


Ond mae’n bwysig pwysleisio na fyddai’r mesurau hyn, sydd wedi effeithio gymaint ar ein bywydau, wedi cael eu cyflwyno pe na baen nhw’n gwbl angenrheidiol.


Wrth gyflwyno’r sioc sydyn hon, nod Llywodraeth Cymru yw tarfu ar y feirws a rhoi ein cymunedau mewn sefyllfa gryfach wrth i’r gaeaf gyrraedd ac wrth i ni nesau at y Nadolig.

 

Gobeithio y bydd hynny yn ei dro yn golygu y bydd angen gweithredu llai difrifol wrth inni nesáu at gyfnod y Nadolig.


Does dim gwadu bod hwn yn gyfnod heriol iawn gyda phreswylwyr yn poeni am eu hiechyd meddwl, eu teuluoedd a’u bywoliaeth mewn rhai achosion.


Fodd bynnag, rwy’n apelio'n uniongyrchol ar i bawb i ddilyn y rheolau gan eu bod yn gam pwysig yn ein brwydr yn erbyn y Coronafeirws.


Hoffwn bwysleisio hefyd bod amrywiaeth o gymorth ar gael i'r rhai sydd ei angen.
Gall Tîm Cymorth Arwyr y Fro y Cyngor helpu os oes angen cymorth arnoch drwy eich cysylltu â gwasanaethau'r Cyngor a grwpiau cymunedol.  Gallwch gysylltu â’r tîm drwy ffonio 01446 729592 neu fynd i wefan y Cyngor. 

 

Civic


Mae gwybodaeth am grantiau a mathau eraill o gymorth ariannol i fusnesau ar gael ar-lein hefyd a byddwn yn gweithio'n galed, unwaith eto, i sicrhau bod y rhain ar gael i gefnogi cwmnïau.


Bydd y cyfyngiadau hyn, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar ein bywydau bob dydd, ond roeddwn i hefyd eisiau canolbwyntio ar y gweithgareddau y gall pobl sy'n byw yn y Fro eu mwynhau yn ystod y cyfnod hwn.


Caniateir ymarfer corff y tu allan gydag aelodau o'ch aelwyd cyn amled ag y dymunwch a dylai hwnnw ddechrau a gorffen gartref. Mae hyn yn golygu bod gennym fannau awyr agored penigamp i ni ein hunain, yn ogystal â pharciau, mannau chwarae ac arfordir trawiadol.


Bydd llawer o fanwerthwyr bwyd, megis tafarndau, caffis a bwytai yn aros ar agor i gynnig gwasanaeth tecawê ac ni fydd busnesau manwerthu hanfodol yn cau. 


Hoffwn gloi’r neges hon drwy ddiolch i chi unwaith eto am y ffordd gydwybodol rydych chi wedi addasu i gyfyngiadau’r coronafeirws hyd yn hyn. Rwy’n siŵr y gallwn ni i gyd ddangos yr un penderfyniad wrth i ni wynebu’r her nesaf hon.


Gallaf eich sicrhau y down ni drwy’r cyfnod heriol hwn. 


Diolch i chi ac chadwch yn ddiogel.