System ailgylchu ddidoli yn cael ei chyflwyno yn y Barri
MAE system ailgylchu ddidoli newydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael ei chyflwyno i'r Barri o'r wythnos sy'n dechrau Ddydd Llun, 19 Hydref
Dylai preswylwyr ddechrau defnyddio eu bagiau oren, eu bagiau gwynion a'u cadis llwyd newydd bryd hynny. Dylai'r rhain fod wedi'u danfon i gartrefi yr effeithir arnynt ynghyd â thaflen esboniadol.
Bydd y cynwysyddion newydd yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â bagiau glas presennol, cadis gwastraff bwyd gwyrdd a bagiau gwastraff gardd gwyrdd.

Gall unrhyw un nad yw wedi derbyn un o'r cynwysyddion newydd eu harchebu o wefan y Cyngor, lle gellir gofyn am gyflenwadau ffres o'r bagiau eraill hefyd ac mae rhestr lawn o'r hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu.
Nid yw'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd i fflatiau nac adeiladau fflatiau sydd â storfeydd biniau cymunedol, er bod cynlluniau i wneud hynny yn ddiweddarach eleni.
Fodd bynnag, mae preswylwyr sy'n byw mewn fflatiau sy'n gosod eu gwastraff a'u hailgylchu ar hyn o bryd wrth ymyl y ffordd wedi'u cynnwys yn y newidiadau.
Bydd y system newydd, sydd eisoes ar waith mewn rhannau eraill o'r Fro, yn ei gwneud yn ofynnol i breswylwyr ddidoli rhai elfennau o'u hailgylchu mewn cynwysyddion unigol.
Bydd hyn yn golygu y gellir ailgylchu mwy o'r deunydd a gesglir, gan leihau effaith niweidiol gwastraff domestig ar yr amgylchedd naturiol, ac mae’n fwy cost effeithiol.
Bydd gan y cerbydau newydd a fydd yn casglu eich ailgylchu wahanol rannau ar gyfer gwahanol ddeunyddiau a bydd ein criwiau casglu yn rhoi eich ailgylchu yn uniongyrchol i’r rhannau cywir.
Yna, bydd criwiau yn plygu bagiau ac yn eu gosod y tu mewn i'r cadi llwyd ar ymyl y ffordd y tu allan i gartref preswylydd ac yna fe gludir yr ailgylchu sych a wahanwyd i gyfleuster prosesu yn y Bont-faen.
Anogir aelwydydd i osod dim mwy na dau fag du o wastraff na ellir ei ailgylchu i’w gasglu bob pythefnos, ond bydd hyd at bedwar yn cael eu derbyn am gyfnod dros dro.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: Cyn bo hir, byddwn yn cychwyn ar gam nesaf rhaglen datblygu ailgylchu'r Cyngor yn dilyn ei lansio'n llwyddiannus mewn rhannau eraill o’r Fro y llynedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i drigolion y Barri wahanu ailgylchu i fagiau unigol i'w casglu wrth ymyl y ffordd.
Mae'r trefniant newydd, a fydd yn dechrau ar 19 Hydref, yn cynnwys gosod cardfwrdd mewn bag oren, papur mewn bag gwyn, gwydr mewn cadi plastig llwyd a phlastig a thuniau mewn bagiau glas sy'n bod eisoes. Bydd gwastraff bagiau du, gwastraff gwyrdd a gwastraff cegin yn parhau i gael eu casglu yn yr un modd, gan ddefnyddio'r un cynwysyddion.
Mae gwahanu gwastraff fel hyn yn golygu y gellir ailgylchu cyfran uwch o'r deunydd ac felly mae'n system fwy effeithlon. Bydd hyn wedyn yn cael ei werthu i farchnadoedd yn y DG y byddw ni ein hunain yn eu canfod.”