Pedwar o Aelodau Staff Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn Medalau yr Ymerodraeth Brydeinig
Mae pedwar o aelodau staff Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill Medalau’r Ymerodraeth Brydeinig am eu hymdrechion yn ystod y pandemig Coronafeirws
Derbyniodd Deborah Crow, Swyddog Gweinyddu Ysgolion, Louise Jones, Gweithwraig Gymdeithasol, Sharon Miller, Cydgysylltydd Rhanbarthol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Adam Clode, Goflawr Ysgol, gydnabyddiaeth yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Eleni, roedd proses enwebu arbennig ar gyfer pobl a oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol mewn ymateb i Covid-19 a chafodd yr unigolion uchod eu henwebu gan gydweithwyr yn y Cyngor.

Derbyniodd Antonia Forte, Llywodraethwraig gydag Ysgol Uwchradd Whitmore, Fedal Ymerodraeth Brydeinig am Wasanaethau i Addysg hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Ers i'r pandemig Coronafeirws daro, mae staff y Cyngor wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i sicrhau bod y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt yn parhau i gael eu cynnig.
"Rwy'n siŵr y bydd trigolion ledled y Fro yn ymuno â fi i ddiolch i’r staff rheng flaen sy'n gweithredu ym maes Addysg, Gwasanaethau Cymdogaeth, Gofal Cymdeithasol a llawer o feysydd eraill am y gwaith eithriadol y maen nhw’n ei wneud mewn amgylchiadau heriol iawn.
"Mae llawer iawn o weithwyr y Cyngor yn haeddu clod am eu hymroddiad, ond mae'r pedwar hyn wedi eu dewis i gael cydnabyddiaeth arbennig.
"Hoffwn ddiolch i holl weithwyr y Cyngor am eu hymdrechion dros y chwech neu saith mis diwethaf a llongyfarch Deborah, Louise, Adam a Sharon yn arbennig ar dderbyn yr anrhydedd hwn."
Helpodd Deborah, sy'n gweithio yn Ysgol Gynradd Gladstone, i ddosbarthu parseli bwyd i deuluoedd yn ystod y pandemig. Mae hi'n helpu’n bersonol i baratoi a dosbarthu'r pecynnau ochr yn ochr â'i dyletswyddau arferol ac mae hefyd wedi cynorthwyo gydag amrywiaeth o dasgau eraill.
Helpodd Louise dîm o staff i gysylltu â thros 4,000 o bobl agored i niwed ledled y Fro, gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth priodol ar ddechrau'r pandemig.
Mae Adam, gofalwr yn Ysgol Gynradd Gladstone, wedi gweithio bob dydd yn ystod yr argyfwng, gan gyflawni nifer o dasgau ychwanegol, gan gynnwys cludo disgyblion i'r ysgol.
Roedd Sharon wedi'i hadleoli o'i rôl arferol i arwain y gwaith o gaffael a dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol ar ran y Cyngor. Roedd y rôl hon yn arbennig o heriol oherwydd cyflenwadau cyfyngedig a chanllawiau yn ymwneud â'r offer.
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg: "Llongyfarchiadau gwresog i Sharon, Louise, Deborah ac Adam sydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol iawn ac mae eu cyfraniad yn wyneb argyfwng wedi bod yn rhyfeddol.
"Drwy gydol yr argyfwng hwn mae ymroddiad ac anhunanoldeb ein staff a'n cydweithwyr ledled y sefydliad mewn ymateb i Covid-19 wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.
"Rwy'n falch iawn o'r agwedd honno a hoffwn unwaith eto longyfarch Sharon, Louise, Deborah ac Adam, a diolch o galon i holl staff Cyngor Bro Morgannwg am y ffordd y maen nhw wedi perfformio yn ystod cyfnod eithriadol o anodd."