Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 09 Mis Hydref 2020
Bro Morgannwg
Mae wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn digwydd bob blwyddyn ac mae'n gyfle i rieni sy’n galaru, eu teulu a'u ffrindiau i uno ag eraill a choffáu bywydau eu babanod.
Mae nifer o elusennau a sefydliadau sy'n cynnig cymorth i'r rhai y mae beichiogrwydd neu golli babanod yn effeithio arnynt. Mae'r ymgyrch ymwybyddiaeth hon yn gyfle iddynt uno, cydymdeimlo a chodi arian at ymchwil hanfodol i gamesgor, marw-enedigaethau a genedigaethau cynamserol.
Ar 15 Hydref anogir y rhai fyddai’n dymuno cymryd rhan i ymuno â 'Thon o Olau' drwy oleuo cannwyll am 7pm a'i adael yn llosgi am awr i gofio pob baban sydd wedi marw.
Trefnir Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod gan y Gynghrair Ymwybyddiaeth Colli Babanod, dan arweiniad yr elusen farw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion, Sands. Mae'r gynghrair yn gydweithrediad o fwy na 90 o elusennau yn cydweithio i dorri'r distawrwydd ynghylch colli babanod ac i sbarduno gwelliannau yn y gofal a'r cymorth a gynigir i unrhyw un yr effeithir arnynt gan golli babi.
"Rydym yn gobeithio y bydd gweld lleoliad eiconig yn y Fro wedi'i oleuo mewn pinc a glas yn sbarduno mwy o sgyrsiau am golli babanod. "Amcangyfrifir bod 1 o bob 4 beichiogrwydd yn y Deyrnas Unedig yn dod i ben gyda cholled yn ystod beichiogrwydd neu ar enedigaeth. Mae hyn yn drasiedi sy'n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn ond nad yw'n hysbys iawn. Mae cefnogi achosion fel Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn hanfodol bwysig er mwyn rhoi cyfle i rieni a theuluoedd mewn profedigaeth siarad am eu profiad a chodi arian ar gyfer yr elusennau sydd wedi eu cefnogi nhw." - Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
"Rydym yn gobeithio y bydd gweld lleoliad eiconig yn y Fro wedi'i oleuo mewn pinc a glas yn sbarduno mwy o sgyrsiau am golli babanod.
"Amcangyfrifir bod 1 o bob 4 beichiogrwydd yn y Deyrnas Unedig yn dod i ben gyda cholled yn ystod beichiogrwydd neu ar enedigaeth. Mae hyn yn drasiedi sy'n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn ond nad yw'n hysbys iawn. Mae cefnogi achosion fel Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn hanfodol bwysig er mwyn rhoi cyfle i rieni a theuluoedd mewn profedigaeth siarad am eu profiad a chodi arian ar gyfer yr elusennau sydd wedi eu cefnogi nhw." - Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol