Car Camera'r Cyngor yn nodi dros 200 o droseddau yn ystod ei dair wythnos gyntaf ar y ffyrdd
Mae car camera newydd Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi dros 200 o gerbydau’n parcio'n anghywir yn ystod ei dair wythnos gyntaf ar y ffyrdd
Tasked with cracking down on the issue of problem parking, particularly outside schools, the Civil Parking Enforcement Camera car began patrolling Vale streets on September 14.
Gyda'r dasg o fynd i'r afael â phroblemau parcio, yn enwedig y tu allan i ysgolion, dechreuodd Car Camera Gorfodi Parcio Sifil batrolio strydoedd y Fro ar 14 Medi.
Mewn tair wythnos, nododd:
• 40 o yrwyr yn parcio ar y llinellau igam-ogam y naill ochr i groesfan i gerddwyr.
• 21 o geir yn parcio ar groesfannau ysgol yn ystod amseroedd cyrraedd neu adael yr ysgol.
• 32 o geir mewn safleoedd tacsis.
• 27 o geir mewn safleoedd bysus.
• 91 o gerbydau’n parcio ar gyfyngiadau 'Dim Llwytho'.

Cafodd y gyrwyr hynny hysbysiadau rhybuddio, ond o 05 Hydref bydd Hysbysiadau Tâl Cosb o £70 yn cael eu cyflwyno am droseddau o'r fath, gyda gostyngiad o 50 y cant am dalu’n gynnar.
Mae’r car camera yn ategu ymdrechion y Swyddogion Gorfodi, sy'n patrolio ar droed, ac ymgyrch Tacluso’r Parcio y Cyngor, sy'n annog pobl i barcio’n ddiogel a chyfreithlon.
Fe'i cynlluniwyd yn benodol i dargedu ardaloedd lle gwaherddir parcio tymor byr megis y tu allan i ysgolion ac mewn safleoedd bysus.
Mae preswylwyr yn cael eu hatgoffa i ddefnyddio priffyrdd a phalmentydd yn gyfrifol.
Mae llwybrau beicio wedi’u gosod o amgylch y Sir ar gyfer beicwyr ac i gadw palmentydd yn ddiogel i gerddwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae nifer yr achosion o fynd yn erbyn rheolau parcio a nododd y car camera yn ei dair wythnos gyntaf ar y ffyrdd yn profi pa mor ddefnyddiol y gall fod wrth fynd i'r afael â pharcio gwael.
“Rydym yn derbyn adroddiadau rheolaidd am barcio peryglus, yn enwedig gan ysgolion a rhieni sy'n poeni am ddiogelwch eu plant, a bydd y car o gymorth mawr yn yr ardaloedd hyn.
“Mae mwyafrif helaeth trigolion y Fro yn ofalus ac yn glynu wrth y gyfraith wrth barcio. Gobeithio y bydd y car camera yn annog y ganran fach o barcwyr anghyfrifol i weithredu mewn modd mwy ystyriol."