Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 24 Mis Tachwedd 2020
Bro Morgannwg
Bydd y datblygiad deulawr, a adeiladir ar safle presennol yr ysgol gan y contractwyr ISG Construction, yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd, ystafell i staff ac ardaloedd seibiant. O fewn y tiroedd bydd mannau chwarae allanol, caiff coed a blodau eu plannu, a bydd paneli ffotofoltäig o'r radd flaenaf yn ei gwneud yn un o'r ysgolion cyntaf i ganolbwyntio ar ddefnyddio ynni carbon isel. Dylai’r gwaith, sy’n rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2021 a bydd yn golygu buddsoddiad o £4.435 miliwn. Daw hynny gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau Adran 106 a sicrhawyd gan y Cyngor o ddatblygiadau cyfagos. Mae'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gynllun gwella hirdymor fydd yn cynnwys buddsoddiad o £135 miliwn i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu modern. Cynhaliwyd seremoni gosod y garreg gopa, hen draddodiad sy’n cynnwys rhoi cangen coeden neu gangen ddeiliog ar drawst pren neu haearn uchaf adeilad, yn aml gyda fflagiau a rhubanau wedi’u clymu wrtho, yn ddiweddar yn yr ysgol.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: “Bydd ehangu Ysgol Gynradd Dewi Sant yn galluogi’r disgyblion i fanteisio ar gyfleusterau gwell a mwy modern a fydd yn gwella eu profiad dysgu. Bydd hefyd gyfleusterau ychwanegol er mwyn ateb y cynnydd a ragwelir yn y galw am leoedd ysgol. “Dyma’r project diweddaraf yn ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – corpws o waith pellgyrhaeddol sydd â’r nod o drawsnewid cyfleusterau addysgol ar draws y Fro.”
Ewch i dudalen Manteision Cymunedol y Cyngor i ddysgu sut mae cynllun Ysgolion Cynradd Gorllewin y Fro’n creu manteision ychwanegol ar gyfer bro Morgannwg ehangach a chael gwybod am y cyfraniadau mewn nwyddau a’r cymorth sydd ar gael.