Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 12 Mis Tachwedd 2020
Bro Morgannwg
Gan lynu wrth ganllawiau ymbellhau cymdeithasol y llywodraeth, dim ond y Maer, y Dirprwy Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr gwleidyddol y Cyngor a chynrychiolwyr y Lluoedd Arfog, Cymdeithas y Llynges Fasnachol, Cymdeithas y Gweddwon Rhyfel, Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol a'r Lleng Brydeinig Frenhinol oedd yn bresennol yn y seremoni.Cafodd y gwasanaeth byr ei ffrydio drwy Facebook Live, gan gynnwys gair o groeso gan y Maer, a ddywedodd: "Heddiw ar yr 11eg o Dachwedd, rydym yma'n coffáu Dydd y Cadoediad, ac ymhen ychydig funudau, bydd hi’n 11 o'r gloch. "Er gwaethaf yr anawsterau a achosir gan y pandemig coronafeirws, rydym wedi casglu mewn niferoedd cyfyngedig i gynnal dau funud o ddistawrwydd. Gadewch i ni oedi a chofio'r rhai a roddodd eu bywydau mewn dau ryfel byd ac mewn mwy na 70 o ryfeloedd eraill, er mwyn i ni fwynhau'r heddwch a rhyddid a gafwyd am bris mor uchel." Cafodd dechrau a diwedd y distawrwydd eu nodi gan y Caniad Olaf a Reveille, a daeth y gwasanaeth i ben drwy ganu'r anthemau cenedlaethol.