Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 04 Mis Tachwedd 2020
Bro Morgannwg
Mae Jackie wedi gweithio yng nghartref preswyl y Cyngor, Cartref Porthceri, ers 15 mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa fel cynorthwyydd cegin ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd domestig.
Ers hynny mae wedi cael ei chydnabod am ei gwaith ar sawl achlysur, gan gynnwys yng ngwobrau We Care Wales am Wasanaethau Eithriadol ym mis Chwefror eleni.
Dywedodd y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae pob un o'n staff cartrefi preswyl wedi mynd yr ail filltir eleni, gan roi gofal i’r aelodau mwyaf agored i niwed yng nghymdeithas mewn amgylchiadau eithriadol. "Mae enwebiad Jackie yn haeddiannol iawn, fel rhywun sydd â hanes o berfformio uwchlaw'r hyn a ddisgwylir. Dymunaf bob lwc iddi ar y noson wobrwyo."
Dywedodd y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae pob un o'n staff cartrefi preswyl wedi mynd yr ail filltir eleni, gan roi gofal i’r aelodau mwyaf agored i niwed yng nghymdeithas mewn amgylchiadau eithriadol.
"Mae enwebiad Jackie yn haeddiannol iawn, fel rhywun sydd â hanes o berfformio uwchlaw'r hyn a ddisgwylir. Dymunaf bob lwc iddi ar y noson wobrwyo."
Mae'r Gwobrau Gofal Cenedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan gylchgrawn Caring Times, cylchgrawn rheoli ar gyfer y sector gofal cymdeithasol. Mae Caring Times yn adlewyrchu barn y sector gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar newyddion sy'n effeithio ar ddarparwyr gofal nyrsio a phreswyl preifat, cyhoeddus a dielw.
Lluniwyd y Gwobrau i amlygu’r bobl orau yn y sector gofal hirdymor, drwy dynnu sylw at ragoriaeth a gwobrwyo'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i roi gofal eithriadol yn gyson.
Cynhelir y seremoni Noson Gala a Gwobrwyo yn rhithwir ar 25 Tachwedd 2020.