Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 23 Mis Tachwedd 2020
Bro Morgannwg
Wedi'i leoli ger y Safle Amwynder Dinesig yn Court Road yn y Barri, mae'r datblygiad yn rhan o'r ymateb i gynnydd mewn digartrefedd a achoswyd gan y pandemig Covid-19. Y gobaith yw y gall y project leihau'r ddibyniaeth ar lety brys. Defnyddir paneli wedi'u hinswleiddio o ansawdd uchel i greu unedau hunangynhwysol sy'n cynnwys lolfa/stafell fwyta/cegin, ystafell wely sengl neu ddwbl ar wahân ac ystafell gawod en-suite. Maent yn cynnwys ardal fach breifat â lloriau pren y tu blaen i’r unedau, tra bod cynlluniau hefyd ar gyfer ardal gyhoeddus, maes parcio a lle i gadw beiciau. Mae cam cyntaf y project yn golygu dymchwel yr adeilad gwag ar y safle a gobeithir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Ers i'r pandemig daro, rydym wedi helpu cannoedd o bobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt drwy ddarparu unedau ychwanegol o lety brys mewn Gwestai a lleoliadau Gwely a Brecwast i sicrhau nad oes neb heb gartref na lle diogel i aros. Mae hynny'n ychwanegol at y 120 o unedau o lety dros dro presennol y mae'r Cyngor yn eu darparu fel arfer. "Rydym hefyd wedi bod yn gyfrifol am gydlynu gwasanaethau i bobl ddigartref ledled y Fro a sefydlu grŵp Cydlynu Digartrefedd i gyfarwyddo gweithgarwch. Rydym hefyd wedi sefydlu cynlluniau llety â chymorth gyda landlordiaid preifat ac wedi addasu rhai o'n tai presennol. "Mae adeiladu'r unedau hyn yn cynrychioli llinyn arall o gymorth sydd ar gael. Dylai'r datblygiad hwn roi lleoedd diogel, modern a chyfforddus i bobl aros am gyfnod estynedig."