Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 25 Mis Tachwedd 2020
Bro Morgannwg
Gwnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas a’r Cyfarwyddwr Tai a'r Amgylchedd Miles Punter addewid, fel a ganlyn: “Rwy’n addo peidio byth â goddef, cyflawni nac aros yn dawel ynghylch trais gan ddynion yn erbyn menywod”
Mae'r symbol rhuban gwyn yn cynrychioli'r datganiad bod cam-drin, ar pa bynnag ffurf, yn annerbyniol.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth, bydd twnnel Hood Road yn cael ei oleuo'n wyn i nodi'r achlysur.Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn sefyll, yn siarad ac yn dweud na wrth drais yn erbyn menywod.
Mae eleni'n bwysicach nag erioed gyda chynnydd sylweddol mewn trais, aflonyddu a cham-drin tuag at fenywod yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dywedodd Mr Thomas: "Mae hon yn ymgyrch bwysig sy'n ceisio cydnabod y broblem o drais gan ddynion yn erbyn menywod.
"Rydyn ni'n gwybod bod ymddygiad o'r fath wedi cynyddu oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws gan fod rhaid i lawer o fenywod aros gartref gyda dynion sy'n cam-drin oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws.
"Fel Cyngor, mae'n bwysig ein bod yn dangos ein cefnogaeth i fenter mor werth chweil ac roeddwn yn falch o allu nodi fy nghefnogaeth i'r achos ac annog eraill i sefyll yn erbyn trais o’r fath”