Cyngor Bro Morgannwg yn cynhyrchu arwyddion ffyrdd i gydnabod staff rheng flaen
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn talu teyrnged i'r staff rheng flaen sy'n gweithio o dan amgylchiadau heriol dros ben yn ystod argyfwng coronafeirws
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol, criwiau gwastraff ac athrawon yn parhau i gyflawni eu dyletswyddau i helpu i ddarparu'r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ac i gydnabod yr ymdrech honno, mae'r Cyngor wedi lansio ymgyrch #AtwyrEnfysyFro i roi teyrnged i'r timau sy'n cyflawni tasgau pwysig fel hyn.
Bydd cyfres o arwyddion wedi'u cynllunio'n arbennig yn cael eu gosod mewn lleoliadau amlwg ledled y Fro, gan nodi grwpiau penodol am ddiolch.

TMae’r rhain yn cynnwys:
• Gweithwyr gofal
• Criwiau gwastraff
• Y tîm Cyfarpar Diogelu Personol
• Y ganolfan gyswllt
• Y Tîm Cymorth mewn Argyfwng
• Staff ysgolion
• Timau cartrefi gofal
I roi cipolwg ar y gwaith hanfodol y mae rhai o'r timau hyn yn ei wneud, mae mwy na 5,000 o alwadau wedi'u gwneud gan ganolfan alwadau'r Cyngor, Canolfan Gyswllt Un Fro.
Mae mwy na 300 o geisiadau wedi dod i law ar gyfer parseli bwyd Llywodraeth Cymru ac mae llinell argyfwng Covid-19 wedi ymdrin â thua 150 o alwadau.
Mae bron 50 o osodiadau Teleofal, system larwm argyfwng, wedi'u cwblhau ac mae galwadau teleofal wedi cymryd dros 3,000 o alwadau.
Mae tua 3,000 o alwadau wedi'u gwneud i drigolion agored i niwed sydd wedi cael eu cynghori i’w hynysu eu hunain yn ystod yr argyfwng.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n siŵr y byddai pob preswylydd ar draws y Fro yn ymuno â mi i ddiolch i'n staff rheng flaen am y gwaith eithriadol y maent yn ei wneud mewn amgylchiadau heriol dros ben.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r gwaith hwnnw'n fawr iawn, ac rwy'n gobeithio bod pob unigolyn dan sylw yn hynod falch o'r cyfraniad y maent yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae ymdrechion o'r fath yn gwbl hanfodol yn y frwydr yn erbyn y firws hwn.
"I dalu teyrnged i'r ymrwymiad hwnnw, byddwn yn gosod arwyddion o gwmpas y Fro yn mynegi ein diolch i'r aelodau staff hyn.
"Maen nhw'n weithwyr allweddol go iawn ac rwy'n gobeithio bod y peth bychan hwn yn helpu i dynnu sylw at eu proffesiynoldeb a chymaint yr ydym yn eu gwerthfawrogi."