Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi rhybudd ynghylch defnyddio parciau
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhybuddio trigolion y caiff parciau a mannau agored eu gorfodi i gau eto os bydd ymwelwyr yn parhau i dorri rheolau ynglŷn â'u defnyddio.
Diwygiwyd y cyfyngiadau'n ymwneud â pharciau a pharciau gwledig yr wythnos diwethaf er mwyn caniatáu mynediad cyfyngedig yn dilyn addasiad bach yn y rheoliadau cloi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Daeth hynny ar ôl cyfnod o gau i helpu atal lledaeniad coronafeirws.
Caniateir i'r rhai sy'n byw’n lleol ddefnyddio Cosmeston, Porthceri a pharciau eraill ar gyfer ymarfer corff, cyn belled â bod dau fetr o ymbellhau cymdeithasol rhwng pobl nad ydyn nhw o’r un cartref.
Dylai'r cyfnod hwn o ymarfer ddechrau a gorffen gartref ac ni ddylai olygu teithio pellter sylweddol.
Eglurwyd na chaniateir gweithgareddau hamdden, megis bwyta picnic neu farbiciw a thorheulo.
Fodd bynnag, y penwythnos diwethaf gwelwyd llawer o bobl yn anwybyddu'r cyfyngiadau i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, gyda rhai yn symud rhwystrau diogelwch o’r ffordd, yn mynd i mewn i barciau chwarae a oedd wedi'u cau, ac yn gyrru i leoliadau ac ymgasglu mewn grwpiau. Cafwyd adroddiadau hefyd am unigolion yn cam-drin staff parciau.
"Nid yw'r ymddygiad hwn yn dderbyniol ac ni chaiff ei oddef.
"Ni ddylai fod angen i fi atgoffa pobl o ddifrifoldeb y sefyllfa bresennol a'r bygythiad gwirioneddol mae’n dal i'w achosi.
"Cafodd cyfyngiadau'n ymwneud â pharciau eu haddasu'n ddiweddar er mwyn i rai sy'n byw'n lleol eu defnyddio ar gyfer ymarfer corff – dim byd arall. Nid yw gweithgareddau hamdden fel y rhai y gwelsom bobl yn ymgolli ynddynt dros y penwythnos diwethaf yn cael eu caniatáu, ac nid oes caniatâd i deithio iddynt ’chwaith.
"Rwy'n gwerthfawrogi'r budd y gall y mannau hyn ei gynnig i bobl, ond rydym yn cadw golwg gyson ar y ffordd maen nhw’n cael eu defnyddio ac ni fyddwn yn petruso cyn eu cau eto os bydd ymwelwyr yn parhau i dorri'r rheolau a gweithredu'n anghyfrifol." - Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.