Cynigion diwygiedig ar gyfer darpariaeth gynradd yn Y Bont-Faen
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi cynlluniau diwygiedig i ateb y galw cynyddol am leoedd ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn y Bont-faen.

Daeth ymgynghoriad blaenorol ar gynigion i uno Ysgol Gynradd y Bont-faen ac Ysgol Gyfun y Bont-faen i ben ym mis Ionawr gyda 67 y cant o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r cynnig.
O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi gwrando ar yr adborth gan rieni, staff addysgu, llywodraethwyr a chynghorwyr lleol ac wedi diwygio'r cynigion.
Mae angen ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion cynradd yn y Bont-faen o hyd.
Fodd bynnag, nid chafwyd fawr o gefnogaeth i uno Ysgol Gynradd y Bont-faen ag Ysgol Gyfun y Bont-faen, a lluniwyd cynnig dichonadwy arall, ar ôl ystyried yr adborth a dderbyniwyd.
O dan y cynigion diwygiedig byddai'r Cyngor yn ceisio newid ystod oedran Ysgol Gyfun y Bont-faen o 11 – 19 i 3 – 19.
Bydd capasiti Ysgol Gyfun y Bont-faen hefyd yn cael ei gynyddu i ddarparu ar gyfer 210 o leoedd ysgolion cynradd gyda 48 lle meithrin rhan amser ychwanegol.
A bydd adeilad ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen.
O ganlyniad, byddai Ysgol Gynradd y Bont faen yn aros ar ei safle presennol gyda'i chapasiti presennol.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett:
"Roedd yn amlwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad blaenorol fod ymlyniad emosiynol wrth Ysgol Gynradd y Bont-faen a'i safle presennol. Ynghyd â chysylltiadau cryf â'r gymuned o ystyried ei hagosrwydd presennol at ganol tref y Bont-faen ac uchelgais yn y dref i hyrwyddo a chynnal teithio cynaliadwy. Felly, rydym wedi gwrando ar yr adborth gan rieni, athrawon a'r corff llywodraethu ac o dan y cynigion diwygiedig ni fyddai Ysgol Gynradd y Bont-faen yn newid.
"Codwyd rhai pryderon am gyflwr adeilad presennol yr ysgol a bydd y rhain yn cael sylw ar gam hwyrach. Cododd rhieni bryderon hefyd am yr effaith y byddai'r cynigion blaenorol yn ei chael ar staff addysgu ac ethos Ysgol Gynradd y Bont-faen. Er bod y pryderon hyn wedi'u lliniaru yn y manylion a ddarparwyd o dan yr ymgynghoriad, gobeithiwn y bydd y cynnig newydd yn cael ei weld fel dewis amgen cadarnhaol."
Bydd angen i'r Cyngor gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynigion newydd, o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet ar 9 Mawrth, byddai'r ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 16 Mawrth tan 1 Mai 2020.