Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 03 Mis Mawrth 2020
Bro Morgannwg
Dywedodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau:
“Rydyn ni’n ymchwilio i'r darnau a ddaeth i’r lan ar hyd arfordir gogledd Dyfnaint a de Cymru. Bu Timau Achub Gwylwyr y Glannau Croyde a Bideford yng ngogledd Dyfnaint yn cynorthwyo gyda gwaith glanhau ar ôl i ddarnau o bibellau a choiliau plastig, ddechrau dod i’r lan ar Chwefror 27. Daeth eitemau eraill i’r lan ar hyd arfordir Bro Morgannwg. Daeth yr eitemau hyn i’r lan ar ôl cael eu colli o long gynwysyddion. Mae'r gwaith glanhau yn cael ei arwain gan y cynghorau lleol ac rydym yn gweithio gyda pherchnogion llwythi a gwneuthurwyr i gynorthwyo yn y broses adfer.”
“Rydyn ni’n ymchwilio i'r darnau a ddaeth i’r lan ar hyd arfordir gogledd Dyfnaint a de Cymru.
Bu Timau Achub Gwylwyr y Glannau Croyde a Bideford yng ngogledd Dyfnaint yn cynorthwyo gyda gwaith glanhau ar ôl i ddarnau o bibellau a choiliau plastig, ddechrau dod i’r lan ar Chwefror 27.
Daeth eitemau eraill i’r lan ar hyd arfordir Bro Morgannwg.
Daeth yr eitemau hyn i’r lan ar ôl cael eu colli o long gynwysyddion. Mae'r gwaith glanhau yn cael ei arwain gan y cynghorau lleol ac rydym yn gweithio gyda pherchnogion llwythi a gwneuthurwyr i gynorthwyo yn y broses adfer.”
Noder: Mae gan y deunydd hwn berchennog, felly ni ddylech gymryd unrhyw beth. Cofiwch fod gofyniad cyfreithiol arnoch i roi gwybod i Dderbynnydd y Llongddrylliad.
Os gwelwch unrhyw beth a allai fod yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn, rhowch wybod i'ch Canolfan Gweithrediadau Gwylwyr y Glannau lleol, ynghyd â disgrifiad o'i leoliad, ac unrhyw luniau a dynnoch.
c1v@valeofglamorgan.gov.uk