Arweinydd y Cyngor yn ymateb i Bandemig Coronafeirws ‘COVID-19'
Mae’r Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, wedi gwneud y datganiad canlynol
Fel Arweinydd y Cyngor, roeddwn am roi sicrwydd i'n holl drigolion ein bod wedi bod yn gweithio'n galed ers dechrau’r achosion Coronafeirws COVID-19. Byddwn yn parhau i wneud hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cadw gwasanaethau hanfodol i fynd lle bynnag y bo modd, wrth i ni ddechrau ar gyfnod sy'n debygol o fod yn eithriadol o heriol i'r wlad.
Fel Cyngor, rydym yn darparu rhai gwasanaethau y mae'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn dibynnu arnynt ac mae'n debygol y bydd angen i ni ddibynnu ar y gwasanaethau hynny yn fwy nag erioed yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Bydd goblygiadau posibl COVID-19 i’r Cyngor, ein partneriaid amrywiol a thrigolion a chymunedau Bro Morgannwg yn sylweddol.
Bydd yn rhaid i bob un ohonom, fel unigolion, newid sut y byddwn yn byw ein bywydau bob dydd, sut yr ydym yn rhyngweithio a sut y byddwn yn ymateb i'r sefyllfa sy'n datblygu. Mae'r un peth yn wir am y Cyngor.
Un her fawr fydd yn wynebu'r Cyngor yw sut y byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol os bydd y gweithlu'n llawer llai. Dyma ein blaenoriaeth yn syth.
Un ffordd y gall ein preswylwyr helpu yw drwy ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb [bromorgannwg.gov.uk]. Wrth i ni ddechrau cyfeirio mwy o staff at ddarparu gwasanaethau hanfodol, byddwn hefyd yn gofyn i breswylwyr fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni ddarparu gwasanaethau eraill.
Rwy'n gwybod y bydd ein staff i gyd yn gwneud eu gorau glas dros drigolion a chymunedau Bro Morgannwg. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda'n holl bartneriaid i sicrhau ein bod yn gallu darparu'r gefnogaeth a'r gofal angenrheidiol i'n preswylwyr yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.