Mae llyfrgelloedd yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu
Mae llyfrgelloedd a gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg nawr yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu sy’n galluogi aelodau i fenthyg llyfrau, llyfrau sain a DVDs.
Er eu bod yn parhau ar gau i ymweld â nhw a defnyddio eu cyfleusterau TGCh, bydd llyfrgelloedd yn Y Barri, Penarth a’r Bont-faen ar agor am y gwasanaeth hwn yn benodol o 10.00am tan 1.00pm ac o 2.00pm tan 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a bydd llyfrgell Llanilltud Fawr ar agor yn yr un modd rhwng 1.00pm a 4.00pm.
Gallwch ofyn am hyd at 5 teitl o bell gan ddefnyddio’r catalog ar-lein a gallwch drefnu apwyntiad casglu ar ôl cael neges e-bost yn cadarnhau bod y llyfrau’n barod. Tra bo’r system hon ar waith ni chodir ffioedd benthyg DVDs na llyfrau sain.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw rôl y llyfrgelloedd ym mywydau rhai o’n trigolion, yn arbennig y rheiny sy’n gaeth i’w cartrefi neu sydd wedi’u gwahanu o’u teuluoedd a’u ffrindiau yn y cyfnod anodd hwn.
Mae darllen yn benodol yn ffordd gynhyrchiol ac ysgogol o lenwi’r amser felly rwy’n falch y gallwn ni nawr gynnig y gwasanaeth clicio a chasglu hwn sy’n galluogi pobl i fenthyg hyd at bum llyfr ar unrhyw adeg.
Mae llyfrau sain a DVDs hefyd ar gael i’w benthyg drwy’r system ddi-gyswllt hon, a gall y defnyddwyr weld y catalog ar-lein. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd hwn o gymorth i drigolion wrth i adeiladau a chyfleusterau eraill y llyfrygelloedd aros ar gau."
- Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Sut mae’r broses yn gweithio
1. Gellir gofyn am eitemau o bell gan ddefnyddio'r catalog ar-lein. Gall defnyddwyr y llyfrgell sydd heb fynediad wneud cais dros y ffôn neu drwy e-bost.
2. Ar ôl derbyn e-bost/galwad ffôn yn cadarnhau bod yr eitemau'n barod i'w casglu, bydd angen i gwsmeriaid archebu slot casglu ar-lein.
Wrth gysylltu â’r llyfrgell dros y ffôn neu drwy e-bost i ofyn am eitemau, dylai aelodau’r llyfrgell roi rhif eu cerdyn llyfrgell, eu rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost.
Gallant hefyd wneud ceisiadau am lyfrau neu fynegi hoffterau, megis rhoi rhestr o’u hoff awduron, arddulliau neu deitlau penodol. Bydd staff y llyfrgell wedyn yn creu detholiad o lyfrau i gwsmeriaid eu casglu ar yr amser a drefnir.
Bydd staff yn gwneud eu gorau glas i fodloni gofynion, ond mae’r argyfwng coronafeirws wedi effeithio ar gynhyrchiad a chyflenwad llyfrau newydd ac efallai bod llawer o’r teitlau mwyaf poblogaidd dal ar fenthyg.
Am y rhesymau hyn mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn annog pobl i ddychwelyd eu llyfrau cyn gynted â phosibl.
Wrth gasglu eitemau, mae nifer o fesurau wedi’u rhoi ar waith er diogelwch y cwsmeriaid a’r staff.
-
Dim ond un aelod o’r aelwyd ddylai ddychwelyd a chasglu eitemau.
-
Gellir casglu eitemau dim ond yn ystod yr amser a drefnir er mwyn cadw pellter cymdeithasol drwy osgoi ciwio.
-
I leihau amser cyswllt, bydd yr eitemau’n barod i’w casglu o brif fynedfa’r llyfrgell.
-
Gellir casglu eitemau dim ond o brif fynedfeydd - mae adeiladau a chyfleusterau eraill y llyfrgelloedd yn parhau ar gau.
Sylwch: Ni fydd bagiau a chynhwysyddion ailgylchu ar gael o lyfrgelloedd yn ystod yr adeg hon. Gall trigolion archebu bagiau amldro neu gynhwysyddion newydd i’w dosbarthu ar-lein neu drwy ffonio 01446 700111.
Ni fydd mynediad i gyfrifiaduron na chyfleusterau argraffu/llungopïo yn ystod yr adeg hon.
Mae'r llyfrgelloedd cymunedol yn Ninas Powys, Y Rhws, Sain Tathan, Sili a Gwenfô yn parhau i fod ar gau am y tro.