Gwaith yn dechrau ar ailddatblygu Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Aeth y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg, i seremoni torri'r dywarchen i nodi dechrau’r gwaith ailddatblygu yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Mae ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn dilyn buddsoddiad o bron i £35,000,000 fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor.
Bydd hynny’n golygu bod £135 miliwn wedi’i wario ar drawsnewid cyfleusterau addysgol ym mhob rhan o’r Sir.
Mae'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ar estyniad i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Whitmore, gan ddod â Chymunedau Dysgu Uwchradd y Barri at ei gilydd.
Nawr, yn rhan o’r gwaith datblygu diweddaraf, bydd adeilad tri llawr gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn cael ei adeiladu gan Bouygues UK ym Mhencoedtre i roi lle i 1,250 o ddisgyblion.
Fel yn achos holl brojectau adeiladu eraill y Cyngor, bydd y safle yn gweithredu yn unol â chanllawiau diogelwch Llywodraeth Cymru, gyda rheoliadau ymbellhau cymdeithasol a gweithdrefnau diogelwch eraill ar waith.
Bydd adeilad newydd yr ysgol yn cynnwys neuadd fwyta, cwrt, ardal chweched dosbarth, mannau perfformio a chyfleusterau chwaraeon ardderchog gan gynnwys cae hoci pob tywydd, caeau pêl-droed a rygbi glaswellt, cyrtiau gemau a neuadd chwaraeon dan do.
Dywedodd y Cyng. Burnett: “Yr ailddatblygiad hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres eang o waith sy’n digwydd dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r un mwyaf uchelgeisiol a fu erioed yn y Fro.”
"Mae cyfleusterau addysgol yn cael eu huwchraddio ym mhob rhan o’r Sir, sy'n golygu y bydd gan ddisgyblion yn ein hysgolion y llwyfan gorau ar gyfer llwyddiant.
"Dyma'r drydedd o dair ysgol uwchradd y Barri i gael trawsnewidiad mawr ac rwy'n gobeithio y bydd y disgyblion, y rhieni, yr athrawon a'r gymuned ehangach wrth eu boddau gyda'r canlyniadau."
Rhagwelir y gall yr athrawon a’r disgyblion drosglwyddo i adeilad newydd yr ysgol ar ddechrau 2022, gyda'r project i fod i gael ei gwblhau yr haf hwnnw.
Ewch i’r dudalen Buddion Cymunedol i ddysgu sut mae cynllun Cymunedau Dysgu Uwchradd y Barri yn creu manteision ychwanegol i fro ehangach Morgannwg ac i weld a yw eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyfraniadau mewn nwyddau a chymorth.