Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno mesurau diogelwch yng nghanol trefi
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno ystod o fesurau i gadw ymwelwyr yn ddiogel wrth ymweld â chanol ein trefi
Rhoddodd Llywodraeth Cymru y golau gwyrdd i fanwerthwyr nad ydynt yn hanfodol i ail-agor o ddydd Llun, gan roi hwb i'w groesawu gan lawer o fusnesau'r Fro.
Gyda mwy o siopwyr yn dychwelyd, mae canol trefi Penarth, y Bont-faen, y Barri a Llanilltud Fawr i gyd wedi gweld newidiadau i hyrwyddo cadw pellter cymdeithasol ac maent hefyd wedi bod drwy raglen lanhau drylwyr.

Mae ymweliadau casglu sbwriel wedi cynyddu, mae biniau a meinciau wedi cael eu harchwilio a'u glanhau ac mae ymweliadau i ysgubo’r ffyrdd yn cael eu cynnal yn amlach.
Torrwyd porfa hefyd, cafodd yr holl welyau blodau eu chwynnu a'u glanhau'n drylwyr a chafodd graffiti ei dynnu o dir y Cyngor.
Er mwyn helpu pobl i aros ar bellter diogel ac osgoi ymgasglu, mae arwyddion dros dro sy'n cynnig arweiniad wedi'u rhoi ar waith yng nghanol trefi, tra bod palmentydd wedi'u lledu hefyd i gynnwys mannau parcio ar Heol Holltwn a'r Stryd Fawr y Barri yn ogystal â Windsor Road ym Mhenarth.
I ffwrdd o ganol trefi, bu rhai newidiadau hefyd i gyrchfannau gwyliau, gan gynnwys system cadw i'r chwith ar Ynys y Barri a system unffordd ar Bier Penarth.

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond mae hynny wedi bod yn arbennig o wir i lawer o berchnogion busnes a welodd ddirwyn eu masnach i ben mewn modd dramatig.
"Bydd ailagor siopau nad ydynt yn rhai hanfodol yn newyddion da i lawer, gan roi hwb i'r economi leol a helpu pobl i fynd nôl i’w gwaith.
"Ond mae'n rhaid i’r llacuio hwn ar y cyfyngiadau gael ei wneud yn raddol a gofalus. Mae coronafeirws yn parhau’n fygythiad real iawn felly byddem yn annog pobl i weithredu'n gyfrifol a glynu wrth y mesurau diogelwch sydd ar waith wrth ymweld â chanol trefi a chyrchfannau."