Cymorth, digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein
Er bod gwasanaethau wyneb yn wyneb wedi’u hatal dros dro neu'n gweithredu ar sail argyfwng yn unig, mae llawer o sefydliadau yn dal i weithredu ar-lein neu dros y ffôn.
Porth Gofalwyr Caerdydd a'r Fro
Mae Porth Gofalwyr Caerdydd a'r Fro wedi'i sefydlu i roi gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Nod y gwasanaeth yw gwella ansawdd bywyd gofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal trwy eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth.
Mae'r tîm yn gweithio gyda gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled y rhanbarth i helpu gofalwyr gyda phethau megis:
-
Hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr ar draws y rhanbarth
-
Cefnogi pobl i fanteisio ar wasanaethau lleol
-
Nodi gwasanaethau newydd sy’n angenrheidiol i helpu gofalwyr
-
Codi ymwybyddiaeth o bwy yw'r gofalwyr a'r heriau y maent yn eu hwynebu
-
Darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ofalwyr
Care for a Cuppa, Gofalwyr Cymru
Mae Gofalwyr Cymru yn cynnal cyfres o sgyrsiau a sesiynau gwybodaeth Care for a Cuppa ar-lein bob dydd Mawrth o 14.30 tan 16.30 (oni nodir yn wahanol).
Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal yn Saesneg ac yn cynnwys siaradwr gwahanol bob wythnos o 15:00 tan 16:00. Mae cyfle hefyd i chi siarad â gofalwyr eraill cyn ac ar ôl pob sgwrs.
Gwefan Care for a Cuppa
Gweithgareddau Wythnos Gofalwyr 2020, Gofalwyr Cymru
Bydd Gofalwyr Cymru yn cynnal nifer o weithgareddau a sgyrsiau trwy gydol yr wythnos. Bydd saib 30 munud cyn ac ar ôl pob sesiwn i sgwrsio â gofalwyr eraill a’r swyddogion Dawn ac Amber.
Cynhelir y sesiwn ar Zoom. Cliciwch ar y dolenni unigol sy’n ymwneud â phob gweithgaredd neu siaradwch i ymuno.
Gweithgareddau Wythnos Gofalwyr
Dementia Talking Point, Cymdeithas Alzheimer
Mae Dementia Talking Point yn gymuned gymorth ar-lein i'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'n rhad ac am ddim, ar agor ddydd a nos a gellir ei gyrchu ar-lein.
Dementia Talking Point
Cyfeiriadur Gwasanaethau Trydydd Sector GGM
Mae GGM yn cefnogi sefydliadau'r trydydd sector ac yn derbyn ymholiadau gan y cyhoedd yn ystod argyfwng COVID-19.
Mae'r cyfeiriadur yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau llinell flaen y trydydd sector a llinellau cymorth i gefnogi pobl yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau eraill a hybiau cymunedol.
Gall y gwasanaethau hyn newid ac maent yn dibynnu ar staff a gwirfoddolwyr na fyddant, o bosibl, yn gallu ymateb i bob cais am gymorth.
Cyfeiriadur y Trydydd Sector
Canllawiau GGM am COVID-19 ar gyfer grwpiau cymorth cymunedol
Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg wedi llunio'r canllawiau canlynol ar gyfer grwpiau cymorth newydd a rhai sy’n datblygu sy'n gweithio yn y gymuned.
Canllawiau ar gyfer Grwpiau Cymorth
Swyddog Cyswllt Cymunedol GGM
Mae rôl y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn wasanaeth siop un stop. Mae’n gweithio'n agos gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi teuluoedd, oedolion ifanc a'r rhai rhwng 18 a 60 oed sydd â chyflyrau meddygol hirdymor. Y nod yw helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth trwy eu helpu i fanteisio ar wasanaethau cymunedol.
Mae’n cynnig cymorth gyda chyllid a budd-daliadau, unigrwydd, arwahanrwydd, gweithgareddau cymdeithasol, rhianta, mynediad at eiriolaeth, trafnidiaeth, materion sy'n benodol i gyflwr, tai, a chymorth yn y cartref pan gaiff pobl eu rhyddhau o'r ysbyty.
Dysgu ar gyfer Byw, Carers UK
Mae Carers UK wedi lansio ei raglen e-ddysgu ddwyieithog ddiweddaraf ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae Dysgu ar gyfer Byw yn helpu gofalwyr i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r sgiliau a'r wybodaeth unigryw y maent yn eu cynnig fel rhan o'u rôl gofalu a sut y gallant drosglwyddo'r sgiliau hyn i'r gweithle.
Nod y rhaglen yw hybu hyder ymysg gofalwyr di-dâl sydd yn aml yn peidio â sylweddoli gwerth y sgiliau hyn wrth chwilio am swyddi neu’n meddwl am newid rolau.
Dysgu ar gyfer Byw
Cymuned Ar-lein Macmillan
Mae'r gymuned ar-lein yn cynnig trafodaethau grŵp yn ôl mathau gwahanol o ganser a materion amrywiol. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth 'Holi Arbenigwr'. Mae'r gymuned ar agor 24/7.
Cymuned Macmillan
Marie Curie yn Cefnogi Gofalwyr
Os oes gan rywun sy'n agos atoch chi salwch terfynol, gall Marie Curie eich cefnogi mewn sawl ffordd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gefnogi rhywun sydd â salwch terfynol ar eu gwefan.
Os hoffech chi siarad â rhywun i gael cyngor neu chefnogaeth emosiynol, ffoniwch ein llinell gymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 090 2309.
Ar y wefan Taking Care gallwch edrych ar fideos o ofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn rhannu eu teimladau, anogaeth a ffyrdd o ymdopi.
The Sofa Singers
Wedi’i sefydlu gan yr arweinydd lleisiol, James Sills, mewn ymateb i'r hunan-ynysu byd-eang, mae The Sofa Singers yn dod â channoedd o bobl at ei gilydd mewn amser go iawn am ymarfer côr 45 munud o hyd. Maent yn dysgu cân glasurol gyda harmonïau/cyfeiliant dewisol.
Mae sesiynau The Sofa Singers yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal ar-lein bob wythnos.
The Sofa Singers
Teithiau Rhithwir