Cost of Living Support Icon

 

Swyddog Lleihau Carbon yn ymuno a Thim Cymorth Argyfwng Cyngor Bro Morgannwg

Mae mwy i Swyddog Lleihau Carbon Jenifer Green na bod yn ecogyfeillgar - mae ei natur dda wedi’i sbarduno i symud i’r Tîm Cymorth Argyfwng yng Nghyngor Bro Morgannwg lle mae hi’n helpu y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ystod argyfwng y coronafeirws

 

  • Dydd Iau, 04 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



Gan y dechreuodd y gwaith arferol sychu, gwirfoddolodd Jenifer i gael ei hadleoli i wasanaeth rheng flaen a bod yn rhan o ymateb y Cyngor i'r pandemig.


Arweiniodd hynny at swydd gyda'r Tîm Cymorth Argyfwng, a sefydlwyd i sicrhau bod y rhai sydd â’r anghenion mwyaf acíwt yn cael cymorth ar yr adeg hon.


Nawr, mae ei diwrnod wedi mynd o fonitro effeithlonrwydd ynni i wirio sut mae preswylwyr sydd mewn perygl.


Efallai y bydd angen cymorth i siopa neu help i gasglu presgripsiwn ar rai, tra bydd eraill am gael rhywun hynaws i sgwrsio â nhw.

 

Jennifer-Green"Gwelais yr hysbyseb ar wefan fewnol y Cyngor yn gofyn i bobl adleoli a meddwl y byddai'n syniad da gan nad ydym yn gwneud cymaint o fy ngwaith arferol oherwydd y sefyllfa Covid-19," meddai Jenifer.

 

"Roeddwn yn frwd dros y rôl newydd, roedd yn swnio'n ddiddorol iawn ac yn beth da i'w wneud. Yn amlwg, mae llawer o bobl wedi cael y llythyrau hyn i ddweud y dylent fod yn hunan-warchod. Mae hynny'n golygu eu bod i fod i gloi eu hunain i ffwrdd o'r byd y tu allan yn gyfan gwbl a hyd yn oed oddi wrth aelodau eraill o'u teulu yn yr un tŷ os oes angen.

 

“Mae cysylltu â nhw i wneud yn siŵr y gallant gael bwyd neu feddyginiaeth, i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw rywun i sgwrsio ag ef os oes angen, yn swnio fel peth da iawn i'w wneud a pheth cadarnhaol iawn i'w wneud.

 

“Dw i’n mwynhau'n fawr iawn wir, dw i wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl. Rydych chi ffonio rhai am funud neu ddwy oherwydd eu bod yn hollol iawn, a byddwch yn siarad am hanner awr gydag eraill gan nad ydyn nhw wedi siarad â neb am gwpl o ddiwrnodau.


“Fel arfer, byddwn yn casglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i gadw cofnod o’n cyflenwadau ynni. Rwy’n trefnu cyflenwadau newydd a datgysylltu cyflenwadau, yn ogystal â monitro biliau cyfleustodau i wneud yn siŵr bod gennym ni yr holl wybodaeth angenrheidiol yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.”

 

Mae Jenifer yn un o nifer o staff y Cyngor sydd wedi dewis newid rolau, gan gyfnewid ymladd â charbon am y frwydr yn erbyn Covid-19.


Mae rhai aelodau staff wedi symud i’r gwasanaeth gofal cymdeithasol, tra bod eraill yn gweithio gyda chriwiau gwastraff i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau hanfodol o hyd neu’n helpu i gynhyrchu Cyfarpar Diogelwch Personol.


Yn ddiweddar, lansiodd y Cyngor ei ymgyrch Arwyr Enfys i gydnabod y rhai sy'n cyflawni rolau mor hanfodol ar yr adeg heriol hon.


Mae cyfres o arwyddion sydd wedi'u cynllunio'n arbennig wedi eu gosod mewn lleoliadau amlwg ar hyd a lled y Fro, yn diolch yn arbennig i'r grwpiau sy'n gwneud mwy na’r gofyn yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn.


Cafodd eu cyflog ei godi gan 10 y cant hefyd i nodi’r gwerthfawrogiad am yr ymdrechion hynny.

They have also received a 10 per cent pay uplift in appreciation of those efforts.

"Nid pawb sydd â ffrindiau a theulu sy’n byw yn agos, a gyda rhai pobl rwyf wedi siarad â nhw, nhw yw’r person fydd mewn gwirionedd yn mynd allan ac yn siopa i bawb arall fel arfer," ychwanegodd Jenifer.

 

"Rwy'n sgwrsio â nhw, yn canfod a oes angen help arnyn nhw ac yn trefnu cymorth gan wirfoddolwyr os bydd angen. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu cael blwch bwyd gan Lywodraeth Cymru.


"Dwi'n mwynhau'n fawr – mae'n beth sy'n rhoi llawer o foddhad."