Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 28 Mis Gorffenaf 2020
Bro Morgannwg
Mae’r tystysgrifau fel arfer yn cael eu cyflwyno mewn seremoni gyda’r nos bob blwyddyn. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r sefyllfa Covid-19, eleni trefnodd y prosiectau gyflwyniadau ar garreg y drws. O’r cyfanswm, cwblhaodd pedwar ar hugain o bobl ifanc Lefel 1 Confensiwn Agored Cymru ar Hawliau'r Plentyn CCUHP, ac roedd 11 o bobl ifanc wedi cwblhau cymhwyster Lefel Mynediad 3 ar Hawliau Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yng Nghymru. Fel rhan o’r cwrs, mynychodd pobl ifanc rhwng 16 ac 20 awr o sesiynau hyfforddi gyda'r nos ac ar benwythnosau Defnyddiodd llawer ohonynt y cyfle hefyd i adeiladu oriau gwirfoddoli ar gyfer cynlluniau Dug Caeredin a Bagloriaeth Cymru. Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau i ymgysylltu a darparu ar gyfer ystod o ddysgwyr, yn ogystal â chefnogi datblygiad sgiliau trosglwyddadwy. Roedd yr hyfforddiant hefyd yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu gweithdai a chyflwyniadau i godi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn.
Bu’r Aelod Cabinet dros y Celfyddydau, Hamdden a Diwylliant a Hyrwyddwr Pobl Ifanc, y Cynghorydd Kathryn McCaffer yn canmol y pobl ifanc; “Er gwaethaf y cyfyngiadau presennol a berir gan y Coronavirus, roedd yn hynod bwysig bod gwaith y bobl ifanc hyn yn cael ei gydnabod a’i ddathlu’n gywir a dyna pam roeddwn yn falch o fod yn rhan o’r fideo dathlu.”. “Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc a gwblhaodd eu cymwysterau, ac i’r timau a drefnodd y seremonïau gwobrwyo unigryw.”
Mae project Cenhadon Hawliau’r Fro ar agor i bob person ifanc o bob rhan o Fro Morgannwg. Mae’r project yn galluogi pobl ifanc 11-25 oed i gael hyfforddiant achrededig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ac i ddatblygu a chynnal gweithdai rhyngwladol ledled y sir. Mae’r project yn dal i dyfu; y flwyddyn ddiwethaf cymerodd 1000 o blant, pobl ifanc ac oedolion ran mewn gweithdai a chyflwyniadau gan Genhadon Hawliau’r Fro. Hefyd, cwblhaodd aelodau 1241 o oriau o wirfoddoli. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch ag Alex Thomas:
Neu dilynwch y prosiect drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Ieuenctid y Fro. Twitter: @vysvale Instagram @vysvale Tudalen Facebook – Valeyouthservice