Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 28 Mis Gorffenaf 2020
Bro Morgannwg
Bydd y rhai sydd â diddordeb yn cael eu hannog i chwilio’r pyllau a'r dolydd newydd sydd wedi disodli cwrs golff y parc ar am fywyd gwyllt sydd yn llewyrchu. Mae'r prosiect yn arbennig o awyddus i hyrwyddo rhywogaethau eiconig y parc - gweision y neidr, madfallod a gwiberod.
Dioddefodd yr hen gwrs golff lifogydd sylweddol drwy gydol ei oes, gan olygu yn amlach na pheidio na ellid chwarae arno.Y llynedd, daeth yn rhan o brosiect ail-wylltu gyda'r nod o wella bioamrywiaeth y safle a chynyddu nifer y rhywogaethau fel pryfed peillio, infertebratau, ymlusgiaid, adar a mamaliaid. Dwedodd Melanie Stewart, parcmon safle Parc Gwledig Porthceri a rheolwr y prosiect:
"Nod prosiect Y Dreigiau yn ein Parc yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd cynefinoedd, rhywogaethau a'r rhan y maent yn ei chwarae yn y gwaith o liniaru'r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. "Dylai gwirfoddolwyr dynnu lluniau beth bynnag maen nhw'n ei ganfod yn y cynefinoedd ac mae croeso iddyn nhw geisio adnabod y rhywogaethau. Bydd y lluniau gorau yn ymddangos ar wefan y parc a bydd yr holl gofnodion yn helpu i ddangos cynnydd y prosiect. "Bydd ein gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal digwyddiad dathlu, gan sefydlu ardal ddysgu newydd ar gyfer ysgolion a darparu hyfforddiant ac arolygon ar gyfer y rhywogaethau hyn o fewn y gymuned."
I anfon eich cyflwyniadau neu i ddarganfod mwy am ddreigiau Porthceri neu os hoffech chi helpu i gynnal arolygon o gwmpas y parc ac ar hyd yr arfordir, cysylltwch â: