Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 29 Mis Gorffenaf 2020
Bro Morgannwg
Mewn cyfarfod heddiw, cytunodd Cabinet y Cyngor i symud trefniadau ymgynghori â’r cyhoedd yn eu blaen â’r nod o osod y cyfyngiadau mewn chwe safle ychwanegol, gan ei gwneud yn anghyfreithlon i yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yno.
Dyma nhw:
Mae’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sydd eisoes ar waith mewn nifer o fannau eraill yn y Fro yn rhoi i’r Heddlu a Swyddogion Gorfodi Sifil y grym i atafaelu alcohol a rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig i unrhyw un nad yw’n cydymffurfio â’r gorchmynion.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Dros yr ychydig wythnos diwethaf, bu adroddiadau am ymgasgliadau mawr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol mewn nifer o leoliadau blaenllaw o gwmpas y Fro. “Mae’r ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol ac mae’n atal trigolion ac ymwelwyr eraill rhag mwynhau’r atyniadau hyn yn llwyr. “Ni chaniateir digwyddiadau o’r fath a dyma pam fy mod i a fy nghydweithwyr yn y Cabinet wedi cytuno i symud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn eu blaen i osod cyfyngiadau newydd ar yfed mewn nifer o leoliadau. Mae’r rhain yn debyg i’r rhai sydd eisoes ar waith mewn rhannau eraill o’r Sir lle mae alcohol wedi’i atafaelu ac mae hysbysiadau cosb benodedig wedi’u rhoi. Bydd y penderfyniad hwn yn ein galluogi i wneud yr un peth mewn ardaloedd eraill y mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol annerbyniol yn effeithio arnynt. “Gobeithio bod hyn yn anfon neges gref y byddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â digwyddiadau o anhrefn ac i daclo’r rhai hynny sy’n difetha mannau agored i bawb arall. Os nad yw pobl yn barod i ymddwyn yn gyfrifol a chydymffurfio â deddfwriaeth, wedyn mae’r neges yn syml. Cadwch draw.”
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Dros yr ychydig wythnos diwethaf, bu adroddiadau am ymgasgliadau mawr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol mewn nifer o leoliadau blaenllaw o gwmpas y Fro.
“Mae’r ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol ac mae’n atal trigolion ac ymwelwyr eraill rhag mwynhau’r atyniadau hyn yn llwyr.
“Ni chaniateir digwyddiadau o’r fath a dyma pam fy mod i a fy nghydweithwyr yn y Cabinet wedi cytuno i symud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn eu blaen i osod cyfyngiadau newydd ar yfed mewn nifer o leoliadau. Mae’r rhain yn debyg i’r rhai sydd eisoes ar waith mewn rhannau eraill o’r Sir lle mae alcohol wedi’i atafaelu ac mae hysbysiadau cosb benodedig wedi’u rhoi. Bydd y penderfyniad hwn yn ein galluogi i wneud yr un peth mewn ardaloedd eraill y mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol annerbyniol yn effeithio arnynt.
“Gobeithio bod hyn yn anfon neges gref y byddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â digwyddiadau o anhrefn ac i daclo’r rhai hynny sy’n difetha mannau agored i bawb arall. Os nad yw pobl yn barod i ymddwyn yn gyfrifol a chydymffurfio â deddfwriaeth, wedyn mae’r neges yn syml. Cadwch draw.”