Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 24 Mis Gorffenaf 2020
Barri
Cyn protest sydd wedi'i chynllunio yn y Barri ar 25 Gorffennaf, mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol i egluro yr enwi ar Ffordd Penrhyn yn y Barri.
Dwedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor: "Ni chafodd y stryd dan sylw ei henwi ar ôl unigolyn, ond yn hytrach mae'n cynnwys y cyfieithiad Cymraeg ar gyfer penrhyn neu bentir, gan adlewyrchu ei leoliad ger yr arfordir. Mae hefyd yn air Cernyweg am bentir. Nid yw'r enw yn cyfeirio at unrhyw ffigur hanesyddol.
“Mae gwaith i adolygu yr holl gerfluniau a choffadwriaethau, gan gynnwys enwau strydoedd, adeiladau cyhoeddus a phlaciau, ym Mro Morgannwg yn mynd rhagddo. Mae’n hanfodol fod y rheiny sydd ar dir cyhoeddus yn cynrychioli gwerthoedd pobl leol a gwerthoedd Cyngor modern a chynhwysol.
“Byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau a sefydliadau priodol i archwilio i cysylltiadau â chaethwasiaeth ac unrhyw ymddygiad neu arfer arall nad yw’n cydfynd â’n hethos. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnwys yr adolygiad maes o law.
“Dyma enghraifft arall o benderfyniad y Cyngor i fynd i’r afael â rhagfarn o bob math. Fel sefydliad, rydym yn parhau yn gwbl ymrwymedig i egwyddor cydraddoldeb ni waeth beth fo’r hil, oedran, rhyw, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol."