Cyngor Bro Morgannwg yn datgelu ei gynigion cyllideb
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgelu ei gynigion ar gyfer ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Ddydd Llun 3 Chwefror, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y cynigion cyn cyfarfod gyda phob cynghorydd ar 26 Chwefror.
Mae setliad mwy na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu swm y buddsoddiad sy'n bosibl a hefyd wedi lleddfu'r pwysau ar wasanaethau hanfodol.
Mae'r setliad ariannol yn golygu na fydd angen i'r Cyngor gynyddu'r Dreth Gyngor i gyfradd uwch na'r llynedd. Mae'r Awdurdod yn cynnig cynnydd gan 4.9 y cant, sy'n is na'r cyfartaledd a ragwelir ar gyfer Cymru.
Y cynnydd gan 4.9 y cant oedd yr opsiwn a ffafriwyd pan ymgynghorwyd ar y mater hwn â phreswylwyr yn ddiweddar, gyda thair gwaith y nifer cyfartalog o ymatebwyr yn lleisio eu barn ym mhroses ymgynghori ar y gyllideb eleni.
Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd eto yn y dyfodol wrth i'r Cyngor barhau i ddelio â chanlyniadau 10 mlynedd o galedi.
Fodd bynnag, o dan y cynigion ar gyfer y gyllideb a ryddhawyd heddiw:
-
Bydd ysgolion yn cael £6 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn i ddod, gyda £115miliwn yn cael ei nodi yn y ddwy flynedd nesaf i adeiladu ysgolion newydd ac adnewyddu rhai presennol.
-
Caiff £1.7 miliwn ei wario ar osod wyneb newydd ar ffyrdd i wella rhwydwaith priffyrdd y Fro.
-
£400,000 i gael ei fuddsoddi yn y meysydd Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.
-
Caiff £135,000 ei addo i gludiant ysgol – gan osgoi'r angen i gwtogi ar y ddarpariaeth bresennol.
-
Caiff £1.25 miliwn ei roi tuag at brojectau yn y dyfodol sydd â’r nod o daclo newid hinsawdd.
-
Ar ben hynny, mae bron i £250,000 wedi’i glustnodi i ychwanegu cerbydau trydan at fflyd ceir cronfa'r Cyngor.
"Rydym wedi gwrando ar y trigolion pan ddaw'n fater o gynigion ar gyfer ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Nododd rhan fwyaf y bobl a ymatebodd i'n hymgynghoriad y byddai'n well ganddynt gynnydd gan 4.9 y cant yn y dreth gyngor ynghyd â rhai toriadau a fyddai fel arfer yn mynd law yn llaw â chynnydd cymharol fach. Dyna'n union beth rydym yn ei gynnig, ond heb yr angen i dorri gwasanaethau.
"Mae ein cyllideb awgrymedig yn cynnwys cynlluniau ar gyfer buddsoddi sylweddol mewn ysgolion, a fydd yn golygu gwell cyfleusterau a gwell amgylcheddau dysgu i'n plant, yn ogystal ag arian i'w wario ar seilwaith ledled y sir.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig pwysleisio, er bod y newyddion addawol hyn am ein cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gadarnhaol, nad yw'n hudlath sy’n datrys ein sefyllfa ariannol.
"Mae gennym faterion anodd i fynd i'r afael â hwy eto oherwydd y tangyllido mawr sydd wedi effeithio ar gynghorau ledled Cymru ers degawd. Byddwn yn ceisio bod yn greadigol wrth ateb yr her hon, gyda'r nod o wella effeithlonrwydd drwy ail-lunio gwasanaethau ac osgoi toriadau lle bynnag y bo'n bosibl." - y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.