Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 28 Mis Ionawr 2020
Bro Morgannwg
Bydd cyfres o offer newydd, ar thema natur a choetir, yn disodli’r hen gyfleusterau sydd wedi dirywio a byddant yn addas ar gyfer ystod oedran eang.
Mae nodweddion yn cynnwys Bowl Troelli, Uned Aml-chwarae i Blant Bach gyda Sleid Ddur, Byrddau Picnic a Siglenni i Blant Iau.
Mae cyllid ar gyfer y gwaith wedi dod o gyfraniadau Adran 106, a sicrhawyd gan y Cyngor yn sgil datblygiadau adeiladu gerllaw. Cafodd gwaith ar yr ardal chwarae ei ddechrau’n ddiweddar a bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Chwefror.
Mae ailddatblygiad o’r fath yn rhan o raglen waith eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Sir. Mae cyfleusterau yng Nghaeau Chwarae Brenin Siôr V yn Llandochau a’r Murch yn Ninas Powys ymysg y rhai a fydd yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig fisoedd nesaf.
“Bydd y gwaith hwn yn y Grange yn trawsnewid ardal chwarae hen ffasiwn yn ardal fodern yn llawn o’r offer diweddaraf sy’n addas i blant o oedrannau amrywiol. “Mae hyn yn rhan o raglen waith helaeth sydd wedi gweld ardaloedd chwarae ledled y Fro yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae’r Grange yn un o nifer o leoliadau lle mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd." - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.
“Bydd y gwaith hwn yn y Grange yn trawsnewid ardal chwarae hen ffasiwn yn ardal fodern yn llawn o’r offer diweddaraf sy’n addas i blant o oedrannau amrywiol.
“Mae hyn yn rhan o raglen waith helaeth sydd wedi gweld ardaloedd chwarae ledled y Fro yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae’r Grange yn un o nifer o leoliadau lle mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd." - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.