Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 27 Mis Ionawr 2020
Bro Morgannwg
Ysgol Feithrin Cogan yw’r ysgol gyntaf yn y sector cynradd i gyflawni hyn.
Yn eu hadroddiad, dywedodd Estyn bod yr ysgol yn “lleoliad addysgol effeithiol dros ben”, sy’n darparu addysg “blynyddoedd cynnar eithriadol” i’w disgyblion. Nodwyd bod ansawdd y profiad dysgu yn “rhagorol”.
Dywedodd yr arolygwyr fod “gan bob ymarferydd ddealltwriaeth wych o ddatblygiad plant,” ac o ganlyniad, bod “ansawdd y dysgu a’r addysgu ymhob rhan o’r lleoliad yn gyson o safon uchel iawn.”
Mae astudiaethau achos o arferion ardderchog yr ysgol feithrin wedi eu hanfon i Estyn ar eu cais. Y gobaith yw y bydd rhannu arferion fel hyn yn golygu y bydd yr ysgol yn cyfrannu at y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Bu'r Cyng. Lis Burnett, yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg yn canmol yr ysgol:
“Mae canlyniad yr arolygiad yn wych - dylai staff a disgyblion Ysgol Feithrin Cogan fod yn falch iawn. “Mae tîm yr ysgol yn rhoi lles y plant wrth galon eu gwaith. Mae ganddyn nhw gyfle nawr i rannu’r ffordd maen nhw’n gwneud hyn, a gallai hyn helpu i lywio dyfodol addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru.”
“Mae canlyniad yr arolygiad yn wych - dylai staff a disgyblion Ysgol Feithrin Cogan fod yn falch iawn.
“Mae tîm yr ysgol yn rhoi lles y plant wrth galon eu gwaith. Mae ganddyn nhw gyfle nawr i rannu’r ffordd maen nhw’n gwneud hyn, a gallai hyn helpu i lywio dyfodol addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru.”
“Mae pawb yn Ysgol Feithrin Cogan wrth eu bodd gyda’r adroddiad arolygu ardderchog. Mae’n adlewyrchu ethos yr ysgol ac yn cydnabod gwaith caled holl staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol.” - Pennaeth, Pauline Rowland.