Datblygwyr Brecon Court yn cael cydnabyddiaeth gan y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol
Mae datblygwyr safle Cyngor Bro Morgannwg Brecon Court yn y Barri wedi ennill cydnabyddiaeth gan y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol ar gyfer y safonau rhagorol y maen nhw’n eu cynnal.

Mae’r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol yn ddull annibynnol o asesu y gall y rheiny sy’n gweithio yn y maes ymuno ag ef o'u gwirfodd.
Mae’n mesur perfformiad mewn ystod o feysydd, gan osod targedau sy’n uwch na’r gofynion statudol gyda’r nod o wella delwedd y diwydiant adeiladu.
Caiff y rheiny fydd yn ymuno eu hasesu ar sut maen nhw: Yn gofalu am Olwg y Safle, Parchu’r Gymuned, Diogelu’r Amgylchedd, Sicrhau Bod Pawb yn Ddiogel a Gwerthfawrogi’r Gweithlu.
Dyfernir cyfanswm o 50 pwynt ar draws y pum adran hynny, ac mae angen sgorio 25 pwynt o leiaf er mwyn cydymffurfio.
Mae Jehu Group, y cwmni sy’n gyfrifol am adeiladu Brecon Court yn gosod lleiafswm o 36 o bwyntiau i’w safleoedd, ac yn yr achos hwn, llwyddodd i ennill cyfanswm o 40.
“Rwy’n credu mai balchder yn dy waith sy’n bwysig. Pan fo pobl yn dod ar y safle, does neb yn dymuno teimlo fel ei fod yn dwll o le.
“Os daw aelodau o’r cyhoedd i mewn i ofyn cwestiynau i ni, dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw feddwl ‘beth yw’r lle hyn dw i’n dod i mewn iddo fe?’ Rydym ni eisiau i’n safle edrych yn broffesiynol a gwneud i bawb teimlo bod croeso iddyn nhw.
‘Nid yw’n berffaith cael safle adeiladu drws nesa’ i dy dŷ di, ond rydym ni’n ymdrechu i gadw pawb mor hapus ag y gallwn ni ac mae’r CCS yn ffordd dda o ddangos ymrwymiad.” - Rheolwr y Safle, Chris Wood.
Mae Brecon Court yn rhan o raglen uchelgeisiol o waith i hybu darpariaeth tai cymdeithasol y Cyngor.
Bydd y project 28 eiddo yn cynnig llety i bobl hŷn yn ogystal â chartrefi teuluoedd.
Er mwyn achosi cyn lleied o darfu â phosib i’r rheiny sy’n byw gerllaw, mae Jehu Group wedi cynnal diwrnodau agored gyda’r gymuned i fynd i’r afael â materion megis parcio neu bryderon am sŵn.
Ac mewn ymdrech ychwanegol i gyflawni’r elfen gymunedol o fod yn adeiladwr ystyriol, maent wedi cyflogi Ryan Webber sy’n byw’n lleol.
Ar ôl gweithio’n rhan amser, mae gan Ryan nawr gontract parhaol â’r cwmni ac mae’n edrych ar y posibilrwydd o arbenigo mewn masnach benodol.
Daeth drwy’r rhaglen Opportunity Knocks, sy’n gynllun cyflogadwyedd mewn partneriaeth rhwng Cartrefi’r Fro, Cymdeithas Tai Newydd ac Ysbrydoli i Weithio.
“Yn y cychwyn, roeddwn yn y brifysgol ond nid aeth pethau yn ôl y cynllun a gadawais” meddai ef.
“Roeddwn yn ceisio dod o hyd i waith a dywedodd Cyngor Bro Morgannwg wrthyf fod y swydd hon ar gael. Des i i’r safle a gwneud pythefnos o brofiad gwaith ac yna cyfnod prawf o chwe wythnos.
“Rwyf wedi dysgu llawer o bethau ac o’i gymharu â phan ddechreuais i, gallaf wneud llawer mwy.
“Gobeithio taw dyma’r yrfa i fi. Am y tro, rwy’n labrwr, ond hoffwn i ddysgu masnach. Mae rhaid i fi feddwl beth i’w wneud. Mae llawer o gyfleoedd yn y fan hon."
Ychwanegodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros yr Amgylchedd a Thai: “Fel Awdurdod, rydym yn ceisio cynyddu ein stoc o dai fforddiadwy yn sylweddol, gyda mwy na 500 o gartrefi cyngor newydd i’w hadeiladu yn y pum mlynedd nesaf.
“Mae’n bwysig i waith adeiladu mor fawr gael ei gyflawni mor gyfrifol â phosibl, gan achosi cyn lleied o darfu ar y bobl hynny sy’n byw gerllaw. Mae’r wobr hon yn brawf bod JEHU yn cymryd ei rwymedigaeth i’r gymuned leol o ddifri’ a hoffwn estyn fy ngwerthfawrogiad am hynny.”