Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig Canolfan Hamdden Holm View ar brydles hirdymor

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am gynigion ar ddyfodol Canolfan Hamdden Holm View.

 

  • Dydd Iau, 27 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



 

holm view exterior

Cwmni rheoli sy'n rhedeg y cyfleuster hwn ar hyn o bryd, ond mae'r trefniant hwnnw yn dod i ben ar 1 Ionawr y flwyddyn nesaf.


Bellach, mae'r Cyngor yn cynnig yr adeilad ar brydles hirdymor, i'w ddefnyddio gan y gymuned leol ac ehangach.


Mae Canolfan Hamdden Holm View ar Skomer Road, ychydig filltiroedd o Ganolfan Hamdden y Barri.

"Daw contract gweithredwr presennol Holm View i ben ym mis Ionawr 2021 ac nid yw'n ariannol ymarferol i'r Cyngor barhau i redeg y Ganolfan.


"Mae hynny'n golygu ein bod yn cynnig yr adeilad ar brydles hirdymor. Rydym yn ymwybodol o'r rôl bwysig y mae Canolfan Hamdden Holm View yn ei chwarae yn yr ardal leol ac rydym yn edrych ‘mlaen at dderbyn cynigion ar gyfer sut y gellid ei defnyddio er budd y gymuned yn y dyfodol." - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.