Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 18 Mis Chwefror 2020
Bro Morgannwg
Cymerodd y Cynghorydd Neil Moore a'r Cynghorydd Lis Burnett ran yn sesiwn y bore, lle bu’r bobl ifanc yn trafod beth yw hiliaeth a pham y gallai pobl wahaniaethu yn erbyn y naill a'r llall.
Gofynnwyd wedyn i'r myfyrwyr ysgrifennu erthygl bapur newydd yn dwyn i gof achosion o hiliaeth, yn hanesyddol ac yn fwy diweddar.
Ar gyfer sesiwn y prynhawn, bu chwaraewyr Clwb Pêl-droed Tref y Barri a Thref Cwmbran, Kayne Mclaggon a Sean Wharton yn cymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb. Ymunwyd gan yr Hyrwyddwr Ieuenctid a'r Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McAffer.
Yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb, gofynnodd y disgyblion gwestiynau i’r triawd. Roedd y rhain yn cynnwys p'un a oedd Kayne a Sean wedi bod yn ddioddefwyr neu wedi bod yn dyst i gamdriniaeth hiliol, a beth i'w wneud pe baent yn wynebu hiliaeth.
Rhoddwyd gwobrau am y cwestiynau gorau.
"Rydym yn parhau i werthfawrogi ein partneriaeth gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Mae'r gwaith y maent yn ei wneud yn helpu i sicrhau bod ein plant yn hyddysg am hiliaeth, a'u bod yn tyfu i ddeall bod pobl o bob lliw croen a chenhedloedd yn haeddu cael eu trin yn gyfartal a chyda pharch. "Roedd y disgyblion i gyd yn cymryd rhan yn eiddgar ac yn cyfrannu’n dda i’r sesiynau. Roeddent i gyd yn cytuno eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd.” - y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor.
"Rydym yn parhau i werthfawrogi ein partneriaeth gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Mae'r gwaith y maent yn ei wneud yn helpu i sicrhau bod ein plant yn hyddysg am hiliaeth, a'u bod yn tyfu i ddeall bod pobl o bob lliw croen a chenhedloedd yn haeddu cael eu trin yn gyfartal a chyda pharch.
"Roedd y disgyblion i gyd yn cymryd rhan yn eiddgar ac yn cyfrannu’n dda i’r sesiynau. Roeddent i gyd yn cytuno eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd.” - y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor.