Datblygiad Goodsheds yn ennill gwobr ddwbl
MAE datblygiad Goodsheds wedi dathlu llwyddiant dwbl yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2020 eleni
Yn brosiect cydweithredol sy’n cynnwys Cyngor Bro Morgannwg, DS Properties Limited, Cymdeithas Tai Newydd a Llywodraeth Cymru, gwelodd hen adeilad storio rheilffyrdd yn cael ei drawsnewid yn amrywiaeth o ofod masnachol a llety.
Mae'r datblygiad ar Hood Road yn y Barri yn cynnwys pentref cyfleusterau swyddfa mewn cynwysyddion llongau, unedau manwerthu, bwytai a siop goffi ochr yn ochr â bloc o fflatiau.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gynlluniau adfywio sydd wedi'u cwblhau yn y dref a enillodd ddwy wobr mewn seremoni sy'n cydnabod prosiectau cydweithredu ystadau cyhoeddus gan gynnwys partneriaid yn y sector preifat neu'r trydydd sector yng Nghymru.
Daeth y Goodsheds i'r brig yn yr adran Creu Twf Economaidd a chadarnhaodd y Gweinidog Cyllid a Threfnydd, Rebecca Evans, y prosiect hefyd fel 'enillydd enillwyr' cyffredinol, gan ei gydnabod fel y prosiect gorau ar draws pob categori.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r Goodsheds yn brosiect adfywio trefol hynod gyffrous a dychmygus ac rwy'n falch iawn ei fod wedi cael ei ddathlu fel hyn.
"Mae prosiect Goodsheds yn enghraifft wych o gydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, a wireddwyd gan y datblygwr DS Properties, Cyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Tai Newydd.
“Mae’n ddatblygiad gwych a sydd wedi rhoi bywyd newydd i adeilad hanesyddol lleol pwysig, gan greu swyddi, cartrefi a chyfleusterau sy’n angenrheidiol er budd y Barri a thu hwnt.”
"Mae hyn yn rhan o waith adfywio eang sy'n digwydd ledled y Barri ac mae'n dilyn cyfres o gynlluniau tebyg. Mae'r Hang Fire Southern Kitchen penigamp, bar espresso Academi a busnesau eraill yn gweithredu fel rhan o ailddatblygiad y Tŷ Pwmpio, tra bod prosiectau cyffrous pellach ar y gweill yn cynnwys cynigion ar gyfer campws coleg newydd, ysgol gynradd a'r Ystafell Beiriannau, a fydd yn cynnig rhagor o swyddfeydd o safon."
Mae Gwobr Creu Twf Economaidd Ystadau Cymru 2020 yn cydnabod sefydliad sector cyhoeddus ar gyfer defnyddio ei ystâd i sicrhau twf economaidd drwy greu swyddi, cartrefi a chyfleoedd busnes.
Anogwyd ceisiadau i ddangos sut mae'r prosiectau hynny wedi cyflawni twf economaidd drwy gydweithio â nifer o bartneriaid.
Dywedodd y panel mai'r prosiect oedd un o'r rhai mwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus a gynigiwyd am y gwobrau.
Mae egwyddorion byw, gweithio a chwarae wedi'u cyflawni drwy gymysgedd o ddefnyddiau sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan ddarparu cyfleoedd hyblyg i fusnesau ddechrau a thyfu.
Teimlwyd bod y prosiect yn dangos yn glir y pum ffordd o weithio drwy fabwysiadu dull o greu lleoedd, yn enwedig cyfranogiad cryf gan y gymuned; cydweithredu gwirioneddol; integreiddio drwy ystod eang o ddefnyddiau cymysg a'i ddull adfywio hirdymor.
Roedd dyfarniadau eraill o dan y categorïau o gynaliadwyedd amgylcheddol, darparu gwasanaethau integredig, effeithlonrwydd cost a'r gwerth gorau am arian.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd: "Mae'r newyddion gwych hwn yn dyst i'n partneriaeth lwyddiannus yn ogystal â phrofi gwerth symud oddi wrth brosiectau traddodiadol yn ôl parth. Mae trigolion eisoes wedi dechrau symud i'n fflatiau, sy’n darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel mewn cymuned lle gall pobl gymdeithasu, gweithio a byw. Mae'r rhain yn elfennau hanfodol mewn unrhyw brosiect adfywio llwyddiannus, sy’n creu cymuned gynaliadwy yng nghanol y Barri am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: "Bydd Goodsheds nid yn unig yn creu twf economaidd, ond yn creu swyddi, cartrefi a chyfleoedd busnes. Mae'n enghraifft wych o gydweithio a sut y gellir defnyddio cymorth drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i ddod ag adeilad hanesyddol, ond wedi'i esgeuluso, yn ôl i ddefnydd fel ei fod o fudd i'r gymuned gyfan.
"Rwy'n falch bod y prosiect arloesol hwn wedi cael ei gydnabod gyda dwy wobr yng Ngwobrau Ystadau Cymru eleni ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â Goodsheds yn y dyfodol."
Dywedodd Simon Baston, Rheolwr Gyfarwyddwr DS Properties: "Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru i ddarparu'r Stryd Fawr drefol newydd gyntaf o'i math yn y DU, sy'n arbenigo mewn cydweithredu cymunedol ac sy'n rhoi'r cyfle i lawer o fusnesau deori bach a chanolig eu maint.
"Rydym yn gobeithio y bydd Goodsheds yn dod yn dempled ar gyfer cymunedau eraill a chanol trefi y mae angen eu hail-bwrpasu/adfywio, ac ynghyd â'r gefnogaeth wych y mae wedi'i chael hyd yma, dylai symud o nerth i nerth."