Cyngor Bro Morgannwg a Fforwm 50 plws yn codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hyn
MAE Cyngor Bro Morgannwg a Fforwm Strategaeth 50+ y Sir yn atgoffa pobl hŷn o'r hawliau ariannol sydd ar gael iddynt gan fod llawer yn ei chael hi'n anodd ymdopi ag arian yn ystod argyfwng y coronafeirws
Yn ogystal ag arwain at deimladau o unigrwydd, gall treulio mwy o amser gartref yn ystod y pandemig olygu biliau cartref uwch.
Ond nid yw'r rhai dros 50 yn aml yn ymwybodol y gallent fod yn gymwys am amrywiaeth o ostyngiadau a breintiau ariannol ac mae hawliau o'r fath yn aml yn mynd heb eu hawlio.
Gyda'i gilydd, mae'r Cyngor a'r Fforwm yn bwriadu rhoi cyhoeddusrwydd i'r amrywiaeth eang o fanteision ariannol sydd ar gael i'r grŵp hwn er mwyn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

EDyma rai enghreifftiau o'r hawliau a gynigir:
• Credydau a hwb i’r pensiwn - budd i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sy'n codi incwm.
• Gostyngiad yn y Dreth Gyngor – gall hyn fod yn ostyngiad llwyr neu rannol yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
• Budd-dal tai – cymorth i helpu i dalu rhent.
• Lwfans gweini – ar gael i bobl hŷn y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i aros yn annibynnol gartref.
• Lwfans gofalwr – budd i'r rhai sy'n ymwneud â gofalu am rywun arall.
• Budd-daliadau Gwresogi – taliad tanwydd gaeaf i helpu i dalu biliau.
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, gyda llawer o drigolion yn wynebu problemau ariannol oherwydd y pandemig coronafeirws.
"Fel preswylwyr eraill, gall y newidiadau i fywyd pob dydd effeithio'n ariannol ar bobl hŷn. Fodd bynnag, mae nifer o hawliau ariannol ar gael i'r grŵp hwn, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, i helpu gyda chostau byw.
"Rydym yn cynnig gostyngiad yn y Dreth Gyngor mewn rhai achosion, er y gallai hefyd fod yn bosibl rhoi hwb i'ch pensiwn neu gael lwfans ychwanegol os ydych yn ofalwr. Mae llawer o wasanaethau eraill hefyd ar gael am ddim neu ar gyfradd ostyngol i'r rhai dros 50.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud pobl yn ymwybodol o beth yn union sydd ganddynt hawl iddo, felly does neb yn methu allan.”
Dywedodd Lynda Wallis, Cadeirydd Gweithredol Fforwm Strategaeth 50+ y Fro: "Effeithiwyd yn ddifrifol ar bobl hŷn gan y feirws Covid-19 ond gallai fod rhywfaint o gymorth ar gael ar yr ochr ariannol i lawer o bobl dros 50 oed.
"Mae gwerth miliynau o bunnoedd o gredyd pensiwn heb ei hawlio am nad yw pobl yn ymwybodol bod ganddynt hawl iddo. Gallai galwad ffôn i holi wneud gwahaniaeth mawr i'ch incwm."
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyngor drwy ffonio 01446 709244 Mae Age Connects ar gael ar 02920 683682 ac Age Cymru ar 08000 223 444.