Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn croesawu'r defnydd o'r graddau rhagweld ar gyfer canlyniadau arholiadau

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno ag awdurdodau lleol ledled Cymru i groesawu'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r graddau A ragwelwyd gan athrawon i bennu canlyniadau lefel A, AS a TGAU.

 

  • Dydd Mawrth, 18 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett: "Roedd yn gwbl amlwg bod angen newid y modd y cafodd graddau eu dyfarnu, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cydnabod hyn.  

 

"Roedden ni'n falch iawn yn y Fro o dderbyn ein canlyniadau Safon Uwch a Safon UG gorau erioed yr wythnos diwethaf.  Fodd bynnag, ni fyddai hyn wedi golygu dim i bobl ifanc sydd ar yr un pryd wedi gweld eu gobeithion ar gyfer y dyfodol yn diflannu yn sgil system ddiffygiol.  

 

"Gwn o drafod gyda'n cabinet ieuenctid fod cryn bryder a phoeni ynghylch y sefyllfa o ran canlyniadau arholiadau yng Nghymru. 

 

"Roedd israddio graddau amcangyfrifedig athrawon yn fympwyol, yn ddryslyd ac yn annheg.  Ar ryw bwynt, mae'n ymddangos bod gwneuthurwyr penderfyniadau wedi colli golwg ar y rhai a ddylai fod wrth wraidd ein system addysg; y disgyblion. Diolch byth, mae'r camgymeriad hwn wedi'i gywiro." 

Mae'r defnydd o asesiadau athrawon – Graddau a Aseswyd mewn Canolfannau – i'w defnyddio nawr ar gyfer graddau TGAU yr wythnos hon a'u cymhwyso'n ôl-weithredol i raddau Lefel A a rhai Lefel Uwch Gyfrannol. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi'r cam hwn.