Disgwylir i adeiladau llyfrgelloedd ailagor ar sail wedi i rheoli
Mae adeiladau llyfrgelloedd y Barri, y Bont-faen a Llanilltud Fawr yn paratoi i ailagor ar sail wedi’i rheoli o ddydd Llun.
Cafodd gwasanaethau llyfrgell eu hatal i ddechrau mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r coronafeirws cyn lansio gwasanaeth clicio a chasglu ar ddiwedd mis Mehefin.
Mae hynny'n galluogi aelodau i fenthyg llyfrau, llyfrau sain a DVDs ar sail apwyntiad hyd yn oed gyflwyno ceisiadau am ddewisiadau o ran awduron neu genres.
Bydd trigolion nawr yn gallu defnyddio mwy o gyfleusterau gan y caniateir defnyddio cyfrifiaduron a phori llyfrau yn gorfforol eto.
I ddechrau, gellir trefnu sesiwn 50 munud o hyd unwaith yr wythnos ar gyfrifiaduron, gyda llai o gyfrifiaduron ar gael er mwyn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol.
Bydd cyfyngiadau amser penodol hefyd yn golygu y gall staff lanhau’r peiriannau’n iawn rhwng pob defnyddiwr.
A bydd modd hefyd drefnu slot 20 munud o hyd i bori a dewis llyfrau o'r llyfrgelloedd, gyda chyfyngiadau caeth ar nifer y bobl a dderbynnir i'r adeiladau ar unrhyw un adeg.
Gall aelodau'r Llyfrgelloedd wneud apwyntiadau ar gyfer y naill neu'r llall o'r gwasanaethau hyn dros y ffôn.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Rydym yn ymwybodol o’r rôl hanfodol mae ein llyfrgelloedd yn ei chwarae ym mywydau rhai o'n trigolion, yn enwedig ar adeg pan fydd y rhan fwyaf ohonynt yn treulio mwy o amser gartref.
"Mae darllen yn arbennig yn ffordd gynhyrchiol ac ysgogol o lenwi'r amser felly dw i wrth fy modd ein bod ni nawr yn gallu sicrhau bod mwy o'n gwasanaethau llyfrgell ar gael unwaith eto.
"Er bod nifer mwy o bobl wedi bod yn defnyddio llyfrau, adnoddau a gweithgareddau ar-lein, bydd llawer o bobl yn falch iawn bod adeiladau llyfrgelloedd yn ailagor.
"Mae staff ein llyfrgelloedd wedi gweithio'n galed i gynnig cymaint o gyfleusterau â phosibl ar-lein, ond rwy'n gwybod eu bod yn edrych ymlaen at weld wynebau cyfarwydd a rhai newydd, gobeithio.
"O ddydd Llun, bydd trigolion yn gallu defnyddio cyfrifiaduron a mynd i lyfrgelloedd yn bersonol i bori drwy’r llyfrau, er y bydd y ddau weithgaredd yn cael eu rheoli'n dynn.
"Diogelwch yw'r brif flaenoriaeth o hyd a bydd yr holl fesurau priodol ar waith i ddiogelu aelodau'r Llyfrgell a'r staff."
Yn ystod y cyfnod hwn, caiff cadeiriau eu symud o'r llyfrgelloedd i annog pobl i beidio ag eistedd, bydd toiledau ar gau i'r cyhoedd ac ni fydd cyfarfodydd, gweithgareddau na modd i gadw ystafelloedd.
Gofynnir i unrhyw un sy'n dod i mewn i'r adeilad ddefnyddio diheintydd dwylo a chwblhau cerdyn tracio ac olrhain gan roi ei enw a'i fanylion cyswllt.
Bydd staff y llyfrgelloedd yn gweithio y tu ôl i sgriniau amddiffynnol pan fyddant wrth ddesg ac yn gwisgo feisorau ar adegau eraill a bydd yr holl lyfrau mewn cwarantin am 72 awr cyn cael eu glanhau a'u rhoi yn ôl ar y silffoedd.
Ni fydd yr oriau agor yn ystod yr wythnos yn newid ar hyn o bryd, gyda'r Barri a'r Bont-faen yn gweithredu rhwng 10am ac 1pm a rhwng 2pm a 4pm, a Llanilltud Fawr ar agor rhwng 2pm a 4pm. Bydd y llyfrgelloedd hefyd ar agor rhwng 10am a 1pm pob dydd Sadwrn.
Gan y bydd gwaith gwella’n dechrau cyn bo hir yn Llyfrgell Penarth, ni fydd y llyfrgell honno’n agor yn yr un ffordd â llyfrgelloedd eraill y Cyngor.
Fodd bynnag, bydd hi, yn ogystal â llyfrgelloedd y Barri, y Bont-faen a Llanilltud Fawr yn parhau i gynnig gwasanaeth clicio a chasglu dros y ffôn ac ar y rhyngrwyd Bydd rhai gwasanaethau eraill y Cyngor hefyd ar gael wyneb yn wyneb yn y Swyddfeydd Dinesig ar sail apwyntiad o ddydd Llun 10 Awst.
Gellir gwneud apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau Cofrestryddion, y Dreth Gyngor a Budd-daliadau dros y ffôn o ddydd Gwener 07 Awst. Ceir manylion ar-lein yn www.bromorgannwg.gov.uk
Mae llyfrgelloedd cymunedol yn y Rhws, Sain Tathan a Sili yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu, gyda Dinas Powys a Gwenfô yn debygol o wneud hyn hefyd yn y dyfodol agos.