Cyngor Bro Morgannwg yn dyfarnu codiad cyflog i staff rheng flaen
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi codi cyflogau bron 500 o staff rheng flaen â 10 y cant er mwyn cydnabod eu hymdrechion yn ystod argyfwng coronafeirws.
Bydd gan staff sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdogaeth hawl i'r cynnydd ar ôl i'r Cyngor ymrwymo bron i £600,000 at y cynllun.
Credir mai Cyngor Bro Morgannwg yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gymeradwyo cam o'r fath ac mae'n adlewyrchu'r ffaith bod cadw pobl yn ddiogel a chynnal yr amgylchedd yn flaenoriaethau pendant yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd y codiad yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Mawrth 16 a diwedd Awst, pan gaiff ei adolygu.
Ymhlith y rhai fydd yn elwa mae: gweithwyr cartrefi gofal preswyl, timau gwastraff ac ailgylchu, cynorthwywyr a chymdeithion gofal, gweithwyr cymorth ailalluogi, glanhawyr a gweithwyr hostel.
"Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb ac mae ein staff i gyd yn dangos eu bod yn weision cyhoeddus ymroddedig.
"Fodd bynnag, mae rhai o'n staff rheng flaen yn gweithio ar ddarparu gwasanaethau cwbl hanfodol mewn amgylchiadau arbennig o heriol.
"Mae gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn gofalu am rai o breswylwyr mwyaf agored i niwed ein cymunedau ac yn helpu i gefnogi'r GIG drwy ofalu am bobl y tu allan i leoliadau ysbyty. Yn y cyfamser, mae staff sy'n gweithredu yn ein timau gwastraff ac ailgylchu yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnynt."- Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr
Dywedodd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor:
"Mae'r staff hyn wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gwn fod trigolion y Fro yn gwerthfawrogi’r ymdrech honno’n fawr ac i gydnabod y fath ymroddiad roedd y Cyngor, fel cyflogwr, am wneud datganiad clir ein bod yn eu gwerthfawrogi'n fawr."
Mae'r Cyngor hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i gyrchu a chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol (CDP/PPE), yn unol â chanllawiau Iechyd y Cyhoedd.
Rhoddwyd y cyfarpar hwn i staff yn ogystal â thrydydd partïon, fel darparwyr gofal preifat.
Mae'r staff sydd â'r hawl i'r codiad cyflog wedi'u hysbysu drwy lythyr am y mesur diweddaraf a gyflwynwyd gan y Cyngor i gefnogi gweithwyr ers i argyfwng covid-19 daro.
Mae hyn yn rhan o becyn o fentrau i gadw'r Cyngor i weithredu a darparu gwasanaethau hanfodol, sydd wedi cynnwys galluogi dros 1,000 o staff i weithio gartref, a chreu gwasanaethau newydd.
Sefydlwyd y tîm Cymorth mewn Argyfwng i roi cymorth ymarferol ac emosiynol i'r preswylwyr sydd yn y perygl mwyaf, ac mae cyfeirlyfr Arwyr y Fro’r Cyngor yn galluogi trigolion i gynnig a chael cymorth o'r wefan.