Cost of Living Support Icon

 

Neges o'r Cyng. Christine Cave, Maer Bro Morgannwg

Fel Maer Bro Morgannwg hoffwn anfon diolch arbennig i bawb sy'n chwarae eu rhan wrth drechu Coronafeirws.

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Ebrill 2020

    Bro Morgannwg



Dros yr wythnosau diwethaf rydym oll wedi tystio’n llaw gyntaf yr effaith mae’r Coronafeirws wedi cael ar y rhai sy’n agos atom, a’i effaith ar y GIG a’r sector gofal.


Hoffwn ddiolch yn ffurfiol ein gweithwyr GIG gwych – sydd ar y rheng flaen ar ein cyfer, yn edrych ar ôl y rheini ag effeithir gan y feirws. 


Fel nifer o drigolion y Fro rwyf wedi bod yn clapio ar stepen y drws bob nos Iau am 8yh gyda fy nheulu i ddangos ein gwerthfawrogiad o’r gwaith mae staff y GIG yn ei wneud. Gweithwyr y GIG - o waelod ein calonnau, rydyn ni’n diolch i chi!


Hoffwn hefyd ddiolch i’n gweithwyr gofal eraill a’r staff cartrefi gofal sy’n edrych ar ôl y rhai sydd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, a’r holl bobl sydd wedi camu ymlaen i helpu i ddod yn rhan o’r gweithlu gofal. 


Ymhobman, mae pobl yn gwneud pethau rhyfeddol i helpu ei gilydd. Rwyf wedi clywed nifer o adroddiadau am sut mae pobl ledled Bro Morgannwg wedi mynd ati i helpu ei gilydd. Rwyf wedi clywed am drigolion sydd wedi newid rolau er enghraifft newid o’r sector harddwch i’r sector gofal.

 

Mae cannoedd o bobl ledled y Fro, yn y Barri, Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Penarth, Sili, Aberogwr ac ar draws y Fro Wledig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnig help a chefnogaeth i eraill.  Mewn rhinwedd swydd â thâl neu wirfoddol. Hoffwn hefyd ddiolch Gweithwyr Cyngor y Fro, gan gynnwys  ein gweithwyr gwastraff, staff ein hysgolion, y gweithwyr post, y dyn llaeth lleol yn eich ardaloedd chi, a phawb sy’n ymwneud â sicrhau bod ein gwasanaethau rheng flaen a gwasanaethau eraill yn parhau, a hefyd y llawer mwy ohonoch chi sy’n gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl yn eich cymunedau lleol o dan amgylchiadau anodd iawn.


Rwyf wedi gweld y pethau rhyfeddol mae trigolion y Fro yn gwneud i ddangos gwerthfawrogiad er enghraifft ar Facebook – yn ysgrifennu nodiadau o ddiolch, i glapio pan gânt eu gweld yn y gymuned. Dyma wir ysbryd cymunedol.

 

Cllr CAVE Christine 2017

Hoffwn ddiolch i fusnesau lleol sy’n helpu trigolion i gael y nwyddau hanfodol sydd angen arnynt fel bwyd, meddyginiaeth a mwy.


Hoffwn ddweud diolch yn Fawr i bawb sydd wedi gwirfoddoli. Rwyf wedi clywed nifer o straeon am sut mae gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol yn cynnig help i’r rhai sydd mwyaf anghenus. Un enghraifft o Aberogwr yw’r ‘helping hands group’ sy’n dosbarthu bwyd a meddyginiaethau i drigolion. Yn yr un modd, ar draws y Fro mae pobl yn cefnogi ei gilydd, gan gynnwys y rhai sydd mwyaf agored i niwed. O sefydlu banciau bwyd i gadw llygad ar gymdogion, i’r ymdrechion a wnaed gan un ffermwr i dorri llwybr cerdded ar draws cae fel bod gan bobl ffordd bleserus a diogel i ymarfer corff.

 

Fedra’i ddim diolch pobl digon am eu holl ymdrechion - MAWR a bach. Maent oll yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.

 

Diolch hefyd i’r Clybiau ‘Round Table’ a Rotari sydd wedi bod yn helpu i ddosbarthu meddyginiaeth a bwyd yn ogystal â chynnig galwad ffôn cyfeillgar i bobl a allai fod yn byw ar bennau eu hun. Maent wedi bod yn cefnogi’r rhoddi o ffedogau tafladwy a hefyd rhedeg cystadlaethau ar gyfer plant. Er enghraifft, maent wedi trefnu cystadleuaeth yn y Barri am yr enfys gorau sydd fel yr holl luniau enfys yn sicr yn bywiogi pethau.


Mae eraill wedi bod yn gwneud gwisgoedd, mygydau wyneb a bagiau ar gyfer swyddwisgoedd y GIG. Rwyf hefyd wedi bod yn gwneud hyn yn ystod fy amser hamdden o bell gyda fy wyres Elin – yn gwneud mygydau wyneb. Mae fy wyres yn gwneud am wniadwraig well na fi!


Yn Ninas Powys mae’r ‘Voluntary Concern’ wedi bod yn cynnig i helpu’r rheini sydd mwyaf agored i niwed yn eu cymuned - y rheini sydd wedi derbyn llythyr gwarchod, ac yn cydlynu rhoddion o fwyd ar gyfer Banc Bwyd y Fro. Mae hwn yn gefnogaeth wirioneddol wych.


Yn ystod yr amser hwn mae’r sefydliadau yma’n dibynnu ar wirfoddolwyr a rhoddion ac rwy’n falch ein bod yn lansio Cronfa Grant Argyfwng Arwyr Cyngor y Fro. Bydd hyn yn cynnig grantiau i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol, a Chynghorau Tref a Chymunedau a busnesau cymwys.


Ond nid grwpiau sefydledig yn unig sydd wedi bod yn helpu, hoffwn ddiolch yr holl drigolion am eu help a chefnogaeth. Gan gynnwys y rhai sydd wedi bod yn cydlynu’r tudalennau Covid 19 ledled y Fro a’r ysbryd cymunedol maent wedi dangos ynddynt, gyda jociau a darluniau plant gyda chynigion o help a chyngor, maent oll yn amhrisiadwy.


Diolch hefyd i bawb  sydd wedi aros gartref: trwy wneud hyn gyda’n gilydd rydym yn achub bywydau. Dyma’r unig ffordd i atal lledaeniad y clefyd hwn ac i amddiffyn y GIG ac achub miloedd lawer o fywydau. Mae’r Fro (ynghyd â gweddill Cymru) yn codi i’r her. Byddwn yn curo’r feirws a byddwn yn ei guro gyda’n gilydd. 


Hoffwn glywed eich straeon o bob rhan o’r Fro a gweld darluniau’r plant, a chlywed beth yr ydych chi wedi bod yn gwneud i ddangos caredigrwydd a chefnogaeth i eraill. A byddaf yn ceisio rhannu'r rhain ar Facebook ac ar dudalennau gwe’r cyngor.


Yn y frwydr yn erbyn y Coronafeirws gallwn fod yn sicr bod pob un ohonom wedi ymrestru’n uniongyrchol. Mae gennym ni i gyd rhan bwysig i chwarae ac rwy’n falch, fel rwy’n siŵr ein bod ni i gyd, o ymdrechion pawb ar draws y Fro i sicrhau ein bod ni i gyd yn aros yn iach.

 

Diolch pawb am bopeth rydych chi’n ei wneud. 

 

Maer Bro Morgannwg

 

Councillor Christine Cave 


TheMayor@valeofglamorgan.gov.uk