Ysgolion Bro Morgannwg yn rhagori mewn arholiadau TGAU
Mae ysgolion Bro Morgannwg wedi derbyn canlyniadau arholiadau TGAU ardderchog unwaith eto, gyda disgyblion y sir yn perfformio ymhell uwchben cyfartaledd Cymru a’r rhanbarth.
Yn dilyn llwyddiant Safon Uwch yr wythnos diwethaf, cafodd 21.7 y cant o ddisgyblion y Fro raddau A* neu A, sef 8.7 y cant yn uwch na’r cyfartaledd ar draws y wlad a 6.8 y cant yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Pen-y-bont yr Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a’r Fro.
Ac mae’r Fro hefyd wedi cynhyrchu ffigurau gwych o gymharu â’r cyfartaledd yng Nghymru a’r cyfartaleddau rhanbarthol mewn nifer o gategorïau eraill.
Cafodd 73.3 y cant o ddisgyblion y Fro raddau A* i C a 98.4 y cant rhwng A* a G o gymharu â’r ffigurau ledled Cymru sef 62.8 y cant a 97.2 y cant yn y drefn honno. Y cyfartaledd rhanbarthol oedd 63.6 y cant a 96.9 y cant yn y meysydd hyn.
Roedd llu o ysgolion y Fro hefyd wedi cael llwyddiannau unigol nodedig.

Yn Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, cafodd 65.6 y cant o ddisgyblion raddau A* i C, sef cynnydd o 14.7 y cant ar y llynedd. Cynyddodd ffigur Pencoedtre ar gyfer y dangosydd perfformiad hwn o 49.9 y cant i 57.7 y cant, a St Richard Gwyn o 59.9 y cant i 67.3 y cant.
Cafodd 43.2 y cant o ddisgyblion Ysgol Gyfun y Bont-faen raddau A* i A, 88.9 y cant raddau A* i C a 100 y cant raddau A* i G. Cynyddodd y ganran o ddisgyblion Ysgol Bro Morgannwg a gafodd rhwng A* ac A gan 4 y cant i 34.5 y cant, a chynyddodd Ysgol St Richard Gwyn gan 7.6 y cant i 23.3 y cant.
Daw’r llwyddiannau hyn wythnos ar ôl i ysgolion y Fro ddathlu canlyniadau Safon Uwch arbennig, pan gafodd chwarter yr holl ddisgyblion y ddwy radd uchaf ac roedd llawer o ddangosyddion perfformiad eraill yn uwch na chyfartaledd Cymru a’r rhanbarth.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg: “Unwaith eto mae ysgolion y Fro wedi rhagori o ran eu perfformiad yn yr arholiadau a dylai pawb fod yn hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.
“Ynghyd â llwyddiant Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae wedi bod yn haf hynod lwyddiannus i ddisgyblion y sir a’r staff addysgol sydd wedi’u cefnogi a hoffwn estyn fy llongyfarchiadau diffuant i bob un ohonoch.
“Mae canlyniadau TGAU mor dda â’r rhain yn dangos bod gan lawer iawn o ddisgyblion y Fro ddyfodol disglair o’u blaenau ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt oll wrth iddynt barhau â cham nesaf eu taith.”