DIWEDDARIADAU: Dydd Gwener: 01 Chwefror 2019
*Gallai fod oedi o ran cyfieithu’r dudalen hon heddiw, ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.*
1:00pm - Rydym yn graenu pob llwybr heno:
Graeanu
10:30am: Diolch i ymrwymiad aelodau ein timau parciau, casglu gwastraff, tai a phriffyrdd cafodd mwy na 40 ymweliad gofalwyr hanfodol eu cwblhau dros nos er gwaetha’r eira a bydd 70 arall yn mynd ymlaen fel a drefnwyd heddiw. Bydd hyn yn cael effaith ar rai gwasanaethau heddiw, ond dim ychydig gobeithio. Gwaith tîm gwych!
10:25am: Os oedd gennych gasgliad gwastraff gardd wedi’i drefnu ar gyfer heddiw bydd nawr yn digwydd ddydd Gwener 08 Chwefror 2019. Bydd ein canolfan gyswllt mewn cysylltiad cyn bo hir i gadarnhau.
10:20am:
Os oedd gennych gasgliad gwastraff swmpus wedi’i drefnu ar gyfer heddiw bydd nawr yn digwydd ddydd Mercher 06 Chwefror 2019. Bydd ein canolfan gyswllt mewn cysylltiad cyn bo hir i gadarnhau.
08:52: Ni fydd casgliadau gwastraff swmpus heddiw. Os ydych wedi trefnu casgliad cysylltwch â C1V i ail-drefnu.
08:51: Ni fydd casgliadau gwastraff gardd heddiw. Os ydych wedi trefnu casgliad cysylltwch â C1V i ail-drefnu.
08:49am: Oedi gyda rhai casgliadau gwastraff ac ailgylchu ym Mhenarth heddiw. Byddwn yn ceisio casglu unrhyw wastraff neu ailgylchu heb eu casglu dros y penwythnos. Gadewch nhw allan i’w casglu.
06:50am - Gwiriwch ein rhestr o gau ysgolion am y wybodaeth ddiweddaraf.
Cau Ysgolion
06:49am: Rydym yn graenu pob llwybr