Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 06 Mis Medi 2019
Bro Morgannwg
O hyn ymlaen, bydd y Cyngor yn defnyddio canllawiau y Sefydliad Trwyddedu wrth benderfynu p’un ai a ddylid caniatáu i rywun weithio fel gyrrwr Cerbyd Hacni neu Logi Preifat yn y Sir.
Darparwyd y canllawiau mewn ymdrech i safoni meini prawf wrth ddyfarnu trwyddedau tacsis ledled y DU.
Yn flaenorol, bu rheolau gwahanol gan yr Awdurdodau Lleol ar gyfer trwyddedau o’r fath. Arweiniodd hyn at achlysuron pan oedd rhai ymgeiswyr yn targedu cynghorau penodol gyda chyfyngiadau llacach gan wybod y bydd yn fwy tebygol y cânt eu gwrthod mewn mannau eraill.
Dan y canllawiau y mae’r Cyngor yn eu mabwysiadu, bydd yn rhaid i’r rheiny sy’n cyflawni rhai mathau o droseddau aros yn hwy cyn cael trwydded.
A bydd yr amserlenni hirach hyn yn dechrau o bwynt cwblhau dedfryd yn hytrach nag adeg yr euogfarn.
Er enghraifft, yn y canllawiau newydd, argymhellir i rywun sy’n cyflawni trosedd ddifrodol beidio â chael trwydded tan ar ôl deng mlynedd ers dyddiad cwblhau ei ddedfryd.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: “Mae gyrru tacsi yn swydd sy’n dod â chyfrifoldeb sylweddol. Yn aml bydd gofyn i berson o’r fath gludo pobl ifanc ac agored i niwed o un lleoliad i arall. Hyd yn oed pan nad dyna’r achos, dylai unrhyw berson sy’n teithio yn y math hwn o gerbyd ddisgwyl i’r gyrrwr fodloni amodau llym cyn cael y drwydded. “Drwy fabwysiadu’r canllawiau hyn, rydym ni’n gwneud ein dull trwyddedu’n llymach ond hefyd byddwn yn helpu i sicrhau bod meini prawf penodol y mae’n rhaid i unigolyn eu bodloni os dymuna weithredu yn y capasiti hwn yn unrhyw le yn y Wlad.”
Dywedodd y Cynghorydd Edward Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: “Mae gyrru tacsi yn swydd sy’n dod â chyfrifoldeb sylweddol. Yn aml bydd gofyn i berson o’r fath gludo pobl ifanc ac agored i niwed o un lleoliad i arall. Hyd yn oed pan nad dyna’r achos, dylai unrhyw berson sy’n teithio yn y math hwn o gerbyd ddisgwyl i’r gyrrwr fodloni amodau llym cyn cael y drwydded.
“Drwy fabwysiadu’r canllawiau hyn, rydym ni’n gwneud ein dull trwyddedu’n llymach ond hefyd byddwn yn helpu i sicrhau bod meini prawf penodol y mae’n rhaid i unigolyn eu bodloni os dymuna weithredu yn y capasiti hwn yn unrhyw le yn y Wlad.”