Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 23 Mis Medi 2019
Bro Morgannwg
Mynychwyd y digwyddiad gan dros 50 o ddilynwyr brwd, digwyddiad a agorodd gydag Amanda yn siarad am ei phlentyndod yn Nwyrain Llundain a’r profiad o gael ei magu gydag ond ychydig iawn o arian. Yna bu’n trafod ei phrofiadau fel gwraig i filwr ar gyrch, derbyn diagnosis o ganser, ac ymgais ei mab i wneud amdano ’i hun.
Pwysleisiodd Amanda bwysigrwydd llyfrau a llyfrgelloedd yn ei bywyd, a sut maent wedi cyfrannu at ei llwyddiant. Yna rhoddwyd copi o’i chyfrol newydd, Will You Remember Me? i’r ymwelwyr.
Dwedodd un ymwelydd: Carwn ddiolch o galon i chi am y noswaith hyfryd a dreulion ni yn y llyfrgell nos Iau. Mwynhawyd y digwyddiad a’i werthfawrogi’n drwyadl gan y grŵp cyfan. Roedd y sgwrs gan Amanda Prowse yn ddidwyll ac yn codi’r ysbryd, mae’n berson anhygoel ac yn profi er gwaetha’r anawsterau, yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gwaith caled a phenderfyniad ond gyda help a chariad teulu a ffrindiau. “Unwaith eto diolch i chi a staff y llyfrgell ac edrychwn ymlaen i’r digwyddiad nesaf.”
Dwedodd un ymwelydd: Carwn ddiolch o galon i chi am y noswaith hyfryd a dreulion ni yn y llyfrgell nos Iau. Mwynhawyd y digwyddiad a’i werthfawrogi’n drwyadl gan y grŵp cyfan.
Roedd y sgwrs gan Amanda Prowse yn ddidwyll ac yn codi’r ysbryd, mae’n berson anhygoel ac yn profi er gwaetha’r anawsterau, yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gwaith caled a phenderfyniad ond gyda help a chariad teulu a ffrindiau.
“Unwaith eto diolch i chi a staff y llyfrgell ac edrychwn ymlaen i’r digwyddiad nesaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant: “Rydym yn ffodus yn y Fro i gael cymuned mor weithgar yn ein llyfrgelloedd. Maent yn chwarae rhan allweddol wrth annog ein diwylliant o greadigrwydd a dysgu ymhlith ein preswylwyr fel y mae'r digwyddiad hwn yn ei ddangos."
Mae calendr helaeth o ddigwyddiadau gan y llyfrgell drwy’r flwyddyn, am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Facebook y llyfrgell: