Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 23 Mis Medi 2019
Bro Morgannwg
Ymchwiliwyd i 21 o werthwyr gemau fel rhan o brojectau gorfodi dilysnodi parhaus a chanfuwyd bod pedwar safle’n gwerthu nwyddau heb ddilysnod. Roedd pumed hefyd yn gwerthu nwyddau ffug ar ffurf eitemau ffug Louis Vuitton a Chanel gyda gwerth manwerthu posibl o £25,000.
Mewn achos arall, arweiniodd cwyn a wnaed am werthwr ar eBay at ymchwiliad mawr a arweiniodd ar erlyn dau ddyn am werthu gemwaith heb ddilysnod a gamddisgrifiwyd, gemwaith ffug a cholurau anniogel.
Mae’r Wobr Touchsone flynyddol yn cydnabod y tîm Safonau Masnach sy’n cyflawni’r fenter gorfodi neu addysgol fwyaf effeithiol o ran dilysnodi.
Dywedodd y Cyng Eddie Williams, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoleiddiol a Chynllunio a Chadeirydd y Cydbwyllgor GRhR: “Mae’n bleser o’r mwyaf cael ein cydnabod am ein hymrwymiad i waith gorfodi dilysnodau. Roedd yn benllanw misoedd o waith caled gan ein gweithwyr proffesiynol safonau masnach sy’n ymrwymedig i warchod cwsmeriaid a busnesau ar draws Pen-y-bont, Caerdydd a Bro Morgannwg.
“Ni all economi leol fynnu oni chaiff masnachwyr anonest eu hatal rhag effeithio ar fusnesau onest, cyfreithlon. Mae’r wobr hon yn adlewyrchiad o ethos y GRhR wrth fynd i’r afael â throseddu a mynd yr ail filltir i greu amgylchedd lle taw masnachu teg yw’r norm.”