Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 25 Mis Medi 2019
Bro Morgannwg
Yn dilyn llwyddiant menter debyg sydd wedi gweld rhai llyfrgelloedd yn y Sir yn cael eu rhedeg gan grwpiau cymunedol, o 1 Hydref bydd wyth clwb bowlio’n gyfrifol am bethau fel cynnal a chadw’r lawnt a’r pafiliynau.
Bydd hyn yn golygu y gall y Cyngor wneud arbedion sylweddol ar adeg pan fo costau cynyddol a chyllidebau llai yn golygu bod angen bod yn ariannol ddarbodus.
Dros y 12 mis diwethaf, mae clybiau wedi bod yn paratoi at y newidiadau. Mae hyn wedi cynnwys ceisio noddwyr a threfnu digwyddiadau i godi arian, penodi cwmnïau cynnal a chadw a llogi cyfleusterau at ddefnydd preifat.
Cafodd clybiau indemniad pum mlynedd gan y Cyngor, yn eu gwarchod rhag costau gwaith mawr dros y cyfnod hwnnw tra bod arian y clwb yn cronni.
“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein ffordd o weithredu sut mae cyfleusterau clybiau chwaraeon yn cael eu rheoli yn y Fro. Mae eu gwneud yn gyfrifoldeb ar glybiau lleol yn rhoi mwy o reolaeth i glybiau, ond drwy leihau lefel y cymorthdaliadau a gânt, mae’n arbed arian i’r Cyngor ar adeg o bwysau ariannol sylweddol. “Mae’n newid mawr i’r ffordd y caiff clybiau bowlio eu rheoli, ond mae’n wych gweld sut mae’r timau hyn wedi ymateb i’r her. “Wrth i ni ddal i ymdrechu i brif-ffrydio gwariant y Cyngor, byddwn yn ystyried y posibiliad o gyflwyno trefniadau tebyg i dimau chwaraeon eraill ledled y Sir.” - yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.
“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein ffordd o weithredu sut mae cyfleusterau clybiau chwaraeon yn cael eu rheoli yn y Fro. Mae eu gwneud yn gyfrifoldeb ar glybiau lleol yn rhoi mwy o reolaeth i glybiau, ond drwy leihau lefel y cymorthdaliadau a gânt, mae’n arbed arian i’r Cyngor ar adeg o bwysau ariannol sylweddol.
“Mae’n newid mawr i’r ffordd y caiff clybiau bowlio eu rheoli, ond mae’n wych gweld sut mae’r timau hyn wedi ymateb i’r her.
“Wrth i ni ddal i ymdrechu i brif-ffrydio gwariant y Cyngor, byddwn yn ystyried y posibiliad o gyflwyno trefniadau tebyg i dimau chwaraeon eraill ledled y Sir.” - yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.