Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor I Wahardd Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) o Lyswyrni

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori ar gyfyngiad arfaethedig o 7.5 tunnell ym mhentref Llyswyrni er mwyn atal cerbydau HGV rhag teithio drwy’r pentref.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg


 

Llysworney-HGVs

Y ffordd drwy Lyswyrni yw’r llwybr mwyaf cyfleus i fodurwyr, yn arbennig gyrwyr cerbydau nwyddau trwm sy’n mynd i gyfeiriad y parc busnes ac ardaloedd diwydiannol Llandŵ. Os cytunir ar y cyfyngiad pwysau newydd, bydd hyn yn atal cerbydau sy’n pwyso mwy na 7.5 tunnell rhag teithio drwy’r pentref, ac eithrio i’r rheiny sydd angen mynediad i eiddo neu safleoedd.

 

“Mae’r trigolion wedi codi’r broblem o gerbydau HGV mawr sy’n teithio drwy’r pentref , ac rwy’n falch bod y Cyngor wedi llwyddo i weithredu a mynd i’r afael â’u pryderon.

 

Mae’r ffyrdd i mewn i Lyswyrni yn lonydd cefn gwlad cul ac nid ydynt yn addas i’r math hwn o gerbydau o gwbl. Mae’r traffig HGV yn achosi tagfeydd sylweddol yn ystod oriau brig. Gall hyn effeithio ar ddiogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd aer, yn ogystal â bod yn bryder diogelwch amlwg i’r rheiny sy’n byw gerllaw.

 

Bydd y ffordd newydd a adeiladir fel rhan o ddatblygiad Fferm Darren yn y Bont-faen yn cynnig dewis arall a fydd yn ddiogel, effeithlon ac ymarferol ar gyfer traffig sydd angen teithio i ac o ardal Parc Busnes Llandŵ. 

 

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r buddion gorau posibl i gymuned Llyswyrni, mae’n bwysig i ni roi cyfyngiad pwysau ar waith er mwyn gwahardd cerbydau trwm rhag teithio drwy’r pentref.

 

Pan ystyriwyd hyn i gyd, rhoi cyfyngiad pwysau newydd oedd y datrysiad amlwg a synhwyrol.” - Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: 

Bydd y cyfyngiad yn ei gwneud yn ofynnol i draffig HGV ymuno â’r B4270 wrth Nash Corner ac ailymuno â’r A48 wrth y gylchfan newydd ger Llanfrynach Drive.

 

Caiff hysbysiad cyfreithiol ffurfiol ei gyhoeddi nawr yn cynnig Gorchymyn Cyfyngiad Traffig. Bydd cyfnod ymgynghori statudol yn dilyn a’r gobaith yw y bydd cyfyngiadau ar waith erbyn diwedd y flwyddyn.