Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 24 Mis Medi 2019
Bro Morgannwg
‘Hyfforddwyr y Dyfodol’ yw rhaglen etifeddiaeth Olympaidd y Tîm Datblygu Chwaraeon, sydd â’r nod o ‘ysbrydoli cenhedlaeth’ o gyfranogwyr chwaraeon a hyfforddwyr chwaraeon.
Mae’r rhaglen yn cynnig ystod o hyfforddiant chwaraeon am ddim a chyfleoedd cymhwyso i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a hyfforddi cyfranogwyr, ac mae'n gyfle delfrydol i'r rheiny sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant chwaraeon/hamdden neu i'r rheiny sydd am roi nôl i'w cymunedau.
Bydd angen i gyfranogwyr arfaethedig fynd drwy broses ymgeisio i sicrhau bod y rhaglen yn iawn iddyn nhw. Bydd angen iddynt ymrwymo i gynorthwyo’n rheolaidd mewn chwaraeo cymunedol / ysgol. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i ennill sawl cymhwyster sy’n berthnasol i hyfforddi:
• Cymhwyster Arweinyddiaeth Chwaraeon Lefel 2
• Cymhwyster Corff Llywodraethu Cenedlaethol mewn camp o’ch dewis
• Cwrs Diogelu
• Cwrs cymorth cyntaf
• Hyfforddiant cynhwysiant anableddau
Bydd noson wybodaeth yn cael ei chynnal yn y Swyddfeydd Dinesig, y Barri ddydd Mawrth 1 Hydref. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb alw heibio rhwng 5.00pm a 7.00pm. Dyddiad cau ceisiadau'r rhaglen yw dydd Gwener, 11 Hydref.
Gall unrhyw un sy’n awyddus i gael mwy o wybodaeth gysylltu â Ben Davies-Thompson, Tîm Byw’n Iach ar 01446 704808 neu e-bostio bdavies-thompson@valeofglamorgan.gov.uk