Canol tref y Barri yw’r gorau yng Nghymru o ran cadw siopau cadwyn
Canol tref y Barri yw’r gorau yng Nghymru o ran cadw siopau cadwyn.
Dadansoddwyd patrwm agor a chau y prif fanwerthwyr yng nghanol y trefi yr ystyrir hwy ymhlith 500 stryd fawr flaenaf Prydain mewn ymchwil gan y Local Data Company a PricewaterhouseCoopers.
Yng Nghymru, roedd hynny’n cynnwys mannau fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Caerfyrddin, y Fenni, Pontypridd, Pen-y-bont a Chwmbrân, yn ogystal â’r Barri.

O’r grŵp hwnnw, Heol Holltwn y Barri, sydd â rhaniad 50-50 rhwng siopau annibynnol a mawerthwyr mawr, oedd yr unig un na welodd ddirywiad, gydag un gadwyn yn agor ac un yn cau yn ystod cyfnod yr arolwg rhwng Ionawr a Mehefin eleni.
Dangosodd yr ymchwil fod y Barri’n perfformio’n sylweddol well na threfi eraill tebyg yn ne Cymru.
“Fel awdurdod, rydyn ni wedi ymrwymo at greu canolfannau tref bywiog ledled y Sir,” dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio.

“Rydyn ni wedi sicrhau bod cymorth sylweddol ar gael i Heol Holltwn yn arbennig, lle rydyn ni’n gweithio’n agos gyda masnachwyr i ganfod ffyrdd o hybu’r ardal a denu ymwelwyr.
“Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth helaeth o gynlluniau a mentrau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n galondid gweld y gwaith hwnnw’n dwyn ffrwyth.”
Yn rhan o broject Adfywio Castleland, gwariwyd tua £600,000 o gronfeydd y Cyngor ar wella blaenau’r siopau masnachol ar y stryd, a gwariwyd bron £1 miliwn ar yr ailwampio sylweddol a wnaed i eiddo preswyl i wella gwedd gyffredinol yr ardal.
Mae gwaith mawr wedi ei wneud hefyd i wella seilwaith Heol Holltwn, yn cynnwys rhoi arwynebau newydd i’r heol a’r palmentydd, ailosod cyrbau a gosod mannau croesi mwy diogel.

Bydd gwaith pellach i ailwampio eiddo gwag yn Heol Holltwn yn digwydd drwy’r rhaglen Targedu Buddsoddiad Mewn Adfywio, sy’n rhoi grantiau gwerth bron £1 miliwm i wella adeiladau canol trefi, yn cynnwys gwaith y tu mewn iddynt a’r tu allan.
Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda masnachwyr i drefnu nifer o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn, gyda’r nod o ddenu ymwelwyr, ac mae nifer o fusnesau arloesol newydd wedi dechrau masnachu ar Heol Holltwn dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r rhain yn cynnwys y Zero Waste Store a microdafarn, gyda phrydlesi newydd hefyd wedi eu rhoi i fasnachwyr annibynnol fydd yn dechrau masnachu cyn hir.