Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 22 Mis Hydref 2019
Bro Morgannwg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei Cynllun Corfforaethol drafft sy’n nodi sut y caiff gwasanaethau eu darparu dros y pum mlynedd nesaf.
Gyda phwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth i wella llesiant lleol, nod y cynllun yw cyflawni gweledigaeth y Cyngor ar gyfer ‘Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair’.
Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu drwy edrych ar ystod o wybodaeth, gan gynnwys sut bydd y boblogaeth yn newid a gwasanaethau presennol y Cyngor a sut fydd angen cyflawni’r rhain yn y dyfodol.
Mae’r cynllun yn cynnwys pedwar amcan drafft sef:
Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Neil Moore, “Dros y pum mlynedd diwethaf, Cyngor Bro Morgannwg fu’r Awdurdod Lleol mwyaf effeithiol ei berfformiad yng Nghymru, er mae yna wastad pethau y gallem ni wella arnyn nhw. Rydym wedi mabwysiadu ymagwedd arloesol tuag at ein gwaith ac mae’r canlyniadau yn destament i staff y Cyngor, aelodau etholedig, partneriaid a’n cymunedau. “Wrth edrych ymlaen, rydym yn agor i syniadau a ffyrdd newydd o weithio ar adeg pan fydd y galw ar wasanaethau’r Cyngor yn dal i gynyddu. Drwy weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo i gyflawni’r nodau rydym wedi eu gosod yn y cynllun hwn.” Mae’r Cyngor yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft y disgwylir iddo bod yn ei le rhwng Gwanwyn 2020 - 2025. Bydd cynllun cyflawni blynyddol yn ategu’r cynllun ac yn nodi sut fydd pob amcan yn cael ei gyflawni. Am ragor o wybodaeth ac i ymateb i’r ymgynghoriad ewch i wefan y Cyngor.
Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Neil Moore, “Dros y pum mlynedd diwethaf, Cyngor Bro Morgannwg fu’r Awdurdod Lleol mwyaf effeithiol ei berfformiad yng Nghymru, er mae yna wastad pethau y gallem ni wella arnyn nhw. Rydym wedi mabwysiadu ymagwedd arloesol tuag at ein gwaith ac mae’r canlyniadau yn destament i staff y Cyngor, aelodau etholedig, partneriaid a’n cymunedau.
“Wrth edrych ymlaen, rydym yn agor i syniadau a ffyrdd newydd o weithio ar adeg pan fydd y galw ar wasanaethau’r Cyngor yn dal i gynyddu. Drwy weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo i gyflawni’r nodau rydym wedi eu gosod yn y cynllun hwn.”
Mae’r Cyngor yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft y disgwylir iddo bod yn ei le rhwng Gwanwyn 2020 - 2025. Bydd cynllun cyflawni blynyddol yn ategu’r cynllun ac yn nodi sut fydd pob amcan yn cael ei gyflawni.
Am ragor o wybodaeth ac i ymateb i’r ymgynghoriad ewch i wefan y Cyngor.